Calamy a Walker.
P. A wnaeth Dr. Calamy un ateb i Dr. Walker?
T. Do, ac y mae yno yn adrodd amddiffyniad Mr. Powel; ond nid yw ef ddim yno yn cyfaddef iddo ef ei hun wneyd cam â'r Bedyddwyr yn yr hyn a 'sgrifenasai ef o'r blaen; eto y mae'n achwyn ar Dr. Walker am ddwyn llawer o wag chwedlau, o'r llyfr "Llef wbwb,'"ar Mr. Powel; heb ddal sylw yn y mesur lleiaf fod atebion wedi cael eu gwneyd i'r chwedlau hynny;[1] er hynny yr oedd Dr. Calamy yn euog o'r un bai, canys yr oedd Mr. Powel wedi ateb ymhell cyn iddo yntef 'sgrifennu.
P. A ddiwygiodd Mr. Palmer ddim ar hyn?
T. Mae'n debyg na ddigwyddodd dim iddo ganfod, na meddwl am hyn, canys yn ei argraffiad cyntaf o waith Dr. Calamy, mae'n dywedyd, yr ôl ei awdwr, i weinidogion y plwyfau gael eu rhoi lawr oll. Ond fe adawodd yn ol yr hyn a ddywedir uchod am yr Ailfedyddwyr[2]Mae fe'n rhoi gair da iawn i Mr. V. Powel, o waith Mr. Neal.[3]
Y Troi Allan.
P. Beth mae Mr. Powel ei hun yn dywedyd am y pethau hyn?
T. O ran y gweinidogion, nodwyd mewn rhan yn barod; ond heb law y rhai a adawyd yn eu lle heb eu troi allan, y mae'n dywedyd, i'r rhai a drowyd allan, gael pregethu ar brydiau; ac