Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddynt arfer pob moddion cyfreithlon i gael pregethwyr duwiol i Gymru; iddynt anfon amryw weithiau i Rydychen, Caergrawnt,[1] Llundain, a'r lleoedd yr oeddent fwyaf tebyg i gael cynorthwy; a thrwy hynny iddynt gael llawer, ond nid cynnifer ag ewyllysient, gan na allent bregethu yn Gymraeg. [2]

Pregethwyr 1648-1660.

P. Pa sawl allai fod o weinidogion yng Nghymru yr amser hyn?

T. Mae Dr. Calamy ei hun yn dywedyd fel hyn, Er yr holl achwyn am drefniad pethau yng Nghymru o 1648 hyd 1660, eto mae Whitlock enwog yn dywedyd (Memoirs, P. 518) fod yn y tair sir ar ddêg o Gymru 150 o bregethwyr da, fis Medi 1652, a'r rhan fwyaf o honynt yn pregethu 4 neu 5 waith yn yr wythnos."[3] Yr oedd cyflwr Cymru y pryd hyn lawer yn well nag o gylch 1641, pan mai prin yr oedd cynifer o bregethwyr ag oedd o siroedd yng Nghymru.

Addysg Pregethwyr.

P. A oedd pregethwyr yr amser hyn wedi bod oll yn rhyw brif ysgol?

T. Yr oedd llawer o honynt wedi bod; ond gan na ellid cael digon o rai duwiol dysgedig, trefnwyd i chwilio allan am wyr duwiol, y rhai yr oedd ganddynt ddawn i'r weinidogaeth, er na byddent yn dra dysgedig. Trefnwyd rhai trwy'r deyrnas, i wrando dynion ieuainc yn pregethu, galwyd y rhai'n Triers, sef Profwyr. Yr oedd dynion eraill ar hyd y wlad a elwid

  1. Cambridge.
  2. "Brief Narrative."
  3. Continuation, vol. ii. p. 849.