Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/98

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Feiblau a llyfrau da ereill.[1] A oedd tai cyrddau eto gan yr Ymneillduwyr?

T. Nid oes ond ychydig iawn yng Nghymru yn deall nac yn gwybod y gwahaniaeth mawr yn achos crefydd ymhlith ein tadau rhwng y flwyddyn 1600, a'r flwyddyn 1700; er fod blinder mawr ac erledigaeth yn y wlad yn y can mlynedd hynny, eto, yr oes oreu ydoedd ag a welasai y Cymry ys mwy na mil o flynyddau o'r blaen.

Codi capelydd.

P. Tybiais fod llawer yn cyfrif yr oes ddiweddaf yn ofidus iawn.

P. Felly yr oedd, a'i chymharu a'r amser wedi 1700, ond nid a'i chymharu a'r oesoedd o'r blaen. Am dai cyrddau, nid oedd ond ychydig, os oedd un, yng Nghymru cyn dyfod y rhydd-did yn 1688. Byddent o'r blaen yn cyfarfod mewn tai annedd, a lle gallent; ond wedi hynny dechreuwyd adeiladu tai addoliad, eithr wedi 1700 yr adeiladwyd y rhan fwyaf o'r tai cyrddau trwy Gymru.

Sior y Cyntaf.

P. A fu dim son am gyfyngu y rhydd-did wedi 1688.

T. Byddai son a bygwth gan ddrwg ewyllyswyr ar brydiau, ond yr argoel mwyaf cymylog a

  1. Mae Cofrestr Mr. Moses Williams yn nodi fod yn agos i 60 o lyfrau Cymraeg wedi eu hargraffu yn yr hanner olaf i'r oes ddiweddaf heblaw amryw o'r rhai o'r blaen yn cael eu hargraffu o'r newydd. Yr oedd y llyfrau hyn gan mwyaf ynghylch crefydd a phethau buddiol. Yn y flwyddyn 1500 yr oedd Cymru yn dywyll iawn mewn pethau ysbrydol. Yn 1600 yr oedd Iesu Grist, y meddyg mawr, wedi edrych arnynt yn ei drugaredd a'i gariad, eithr nid oedd y dydd eto ond gwawrio arnynt hwy. Yn 1700, yr oedd gwerthfawr oleun wedi ymdaenu, eto llawer o dywyllwch yn parhau.