Gwirwyd y dudalen hon
Yn awr fe welid yno
Ddau fach mewn hûn di-wall,
'Roedd un yn cysgu i ddeffro,
Ond cwsg y nef gai'r llall;
Wrth weled dlysed agwedd
Y marw bychan, gwyw,
Bron iawn na ddoi eiddigedd
I fam y plentyn byw.
Ni chaed un math o enw,
Nac un lythyren chwaith,
I adrodd hynt y marw,
Na'r lle dechreuai 'i daith;
Y ffeiriad calon gynnes
Ddywedai ar lan ei fedd, —
"Mae Duw yn gwybod hanes
Y bychan tlws ei wedd."
Daeth rhes o blant y dreflan,
Pob un â lili wen,
Hyd at y beddrod bychan,
I'w plannu uwch ei ben;
A dodwyd maen i'w gofio
O garedigrwydd llwyr,
Ac arno wedi'i gerfio
Y ddeuair,—"Duw a ŵyr."