Ar adeg yr Eisteddfod fawr,
O'r dre i lawr i'r harbwr,
Gwnaeth pawb eu ffortiwn heb wneud cam,
Oddieithr ambell farbwr;
A'r rheswm mawr fod pawb o'r rhai'n
Yn gwneud mor fain â'u harfau,
'Does neb o'r beirdd sy'n berchen grym
Yn torri dim o'u barfau.
Fe werthodd un hen wraig ei stoc
O India—rock a chandy
Mor llwyr, nes dwedai wrth O. P.—
"Rwyf i yn awr yn lady;
If you'll get steddfod 74,
And ask me for subscription,
I'll give you fifteen pounds ar frys,
Indeed, o 'wyllys calon."
Mae'n rhaid fod 'steddfod yn beth iawn,
Lle bynnag caiff ei chynnal,
Heblaw cael clywed byd o ddawn,
'Does dim yn talu cystal;
Mae pawb yn dod yn llawn o hwyl,
A phennau a phyrsau llawnion,
A phawb yn mynd yn ol o'r wyl
A’u pennau a'u pyrsau'n weigion.
Rhag. 3, "72.
Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/50
Gwirwyd y dudalen hon