Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/52

Gwirwyd y dudalen hon

DYNA MAE POBL YN DDWEYD

OS gwelwch chwi rywrai o'r naill dŷ i'r llall
Yn taenu chwedleuon di-ri,
Mae rheiny bob amser yn feibion y fall,
Neu yn waeth os oes le, am wn i;
Hwy ddwedant mor dduwiol wrth dywallt eu tê, —
"Mae pwy'ma mron iawn cael ei wneud;
Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion, yntê,
Ond dyna mae pobl yn ddweyd."

"Mae Dafydd yn meddwi yn chwil bob dydd Iau,
A Morus am adael ei wraig,
A Robert yn myned nos Sadwrn fel tae
I ddanfon Sian Jones Tan y Graig;
Mae merch Sion yr Efel ers tro mewn gown gwyn,
Ond thalodd hi byth am ei wneud;
'Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion fel hyn,
Ond dyna mae pobl yn ddweyd."

"Aeth Mrs. Meredydd i geisio ddydd Llun
Am wenwyn gan ddruggist o'r dre',
Er mwyn cael gwneud diwedd am dani ei hun,
Ond yfodd y brandi'n ei le;
A rhoddodd y gwenwyn bob dropyn i'r gath,——
Rhag c'wilydd i'w gwyneb am wneud;
'Dwy'n leicio dweyd dim am gymdogion fel hyn,
Ond dyna mae pobl yn ddweyd."