Yr ail o blant yr Ogo'
Briododd gyda hyn,
A merch heb aur nac eiddo
Yn byw ym Mhen y Bryn;
Aeth yntau i geisio gwaddol,
Ond dwedai 'i dad fel gŵr,—
"Chei di 'run ddimai bythol,—
I'r pant y rhêd y dŵr."
Wrth drin y pwnc ariannog,
Mae'r byd yn eithaf rông,
Am arian gwr cyfoethog,
Rhy'r banciau fwy o lôg;
Uwchben holl ddrysau rheiny
Fe ddylid gyrru gŵr
I baentio sign, ag arni,—
" I'r pant y rhêd y dŵr."
Pan wneir rhyw destimonial,
Rhaid gwneud un i ŵr mawr,
Cryn beth gael punt at gynnal
Y tlawd a fo ar lawr;
Rhowch docyn wrth y pyrsau
Sy'n dal tystebau'r stwr,
Ac arno rhowch y geiriau,
"I'r pant y rhêd y dŵr."
Pwy bynnag sydd a digon,
Cânt chwaneg, odid fawr,
A'r sawl sy'n brin o foddion,
Rhaid taro hwnnw i lawr;
Fel mae y ddeddf mewn natur,
Mae'n ddeddf rhwng gŵr a gŵr,
Er gwaethaf pawb a phopeth, —
"I'r pant y rhêd y dŵr."
Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/82
Gwirwyd y dudalen hon