'Roedd Morfudd yn godro ryw noson
Wrth lwybr yn arwain i'r llan,
Dan sibrwd ei difyr ganeuon
I glustiau yr awel leddf, wan,
Rhyw olwg rhwng llon a phryderus,
Neu rywbeth rhwng siriol a syn,
Feddiannai ei gwyneb cariadus,
Tra canai benillion fel hyn,—
"Mae'r adar bach ar frigau'r coed
Mor ysgafn droed a dedwydd,
Pob un a wêl ei gymar mwyn
Ar gwrr rhyw dwyn neu gilydd,
Ehedant bob yn ddau a dau,
Gan gydfwynhau eu pleser,
Pan gano un mewn hwyl di-wall,
Fe gân y llall bob amser.
"Ar lethr y mynydd mae dwy nant
Gyd-redant tua'r gwaelod,
Ac ar y gwastad yn y rhyd
Mae'r ddwy yn cyd-gyfarfod;
Nid oes dim a'u gwahana mwy,
Ymdodda'r ddwy i'w gilydd;
Mae'r ddwy nant fach yn un nant lawn,
Yn llawer iawn mwy dedwydd.
"A minnau sydd fel 'deryn bach
Mewn awyr iach yn hedfan,
Heb weld erioed mewn lle na llwyn
Un cymar mwyn yn unman;
Caf deithio f'oes o fryn i bant,
Fel nant ei hun fae'n llifo,
A marw'n môr tragwyddol fyd,
Heb neb i gydymdeimlo.