Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A thithau, fedd, paham
Wrth gofio'th ddelwedd,
Fel cynt, gan ofn, na lam
Fy nghalon dristwedd?
Ai, feddrod, am mai tan
Dy wg mae gorffwys fan
Saith brawd a chwaer a mam
A thad tirionwedd?

'Dyw anian, bywyd, bedd,
Ond bys-fynegu
Y noddfa, lle mae hedd
Fyth yn teyrnasu;
Ninnau gawn yno i gyd
Nol gorffen blinwaith byd
Ber gymdeithasu 'nghyd
Mwy heb ymrannu.