Tudalen:Gwaith S.R.pdf/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

logau yn y banc, ac er cyfarfod talion eraill yr hanner blwyddyn hynny. Daethstori y banc, a gwerthiad anamserol colledfawr cymaint o stoc Cilhaul, bob yn dipyn i glustiau y steward, a bu geiriau go uchel a go gâs rhyngddo ef a Highmind; a than ddylanwad gofid a gwenwyn yn wyneb ei golledion, ac wrth gael ei drin, cynhyrfodd a sorrodd Highmind gymaint fel ag y dywedodd nad allai byth byth dalu am y ffarm yn ol y prisiau a'r talion presennol, a'i fod wedi hollol wneuthur i fyny ei feddwl i fyned o Gilhaul gynted byth ag y medrai; a'i bod yn ddrwg iawn ganddo fod y diwrnod iddo roddi notice am y flwyddyn honno wedi myned heibio: ei fod yn gallu rhagweled yn ddigon amlwg y byddai yn sicr o golli y £300 goreu o'i £600 cyn y medrai gael Cilhaul oddiar ei ddwylaw. A bu yn ol ei rag—gyfrif. Wrth arwerthu y stoc a'r offer ar derfyn y tair blynedd, cafodd ei fod wedi colli ymhell dros dri chant o bunnau.

Deallwyd erbyn hyn mai cryn orchwyl i denant newydd—i'r mwyaf lwcus a llafurus—fyddai gwneyd y gofynion o Gilhaul; a thaenwyd y farn am hynny ar ol dydd ocsiwn Highmind ymhell ac agos. Gwyddai pawb nad oedd triniaethau tair blynedd Highmind wedi gwneuthur dim lles i'r ffarm; a bu ei henw, a "to be let," ar ei ol, am wythnosau lawer mewn llythyrenau mawrion yn y newyddiaduron, ac uwch y tân yn yr offices, a'r news—rooms a'r tap—rooms, ac ar byst y tollbyrth, ac ar dalcen y farchnadfa, a holl furiau y dref. "CILHAUL AR OSOD" oedd o flaen y llygaid pa le bynnag yr elid. Daeth pump neu chwech o ddynion dyeithr o bell i'w golwg, ond trodd pob un o honynt adref heb wneuthur