Tudalen:Gwaith S.R.pdf/109

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blwyddyn yma heb eu talu, a chwilio am y cyfle goreu fedrir gael o hyn i ddiwedd y flwyddyn i werthu y cyfan gyda'u gilydd, a chawn weled y pryd hynny pa fodd y bydd y cyfrifon yn sefyll."

Ar ddiwedd y flwyddyn dygodd y baili ei gyfrifon at y steward yn ol y gorchymyn.

"Wel, baili," meddai'r steward "ydyw'r tenantiaid yn dal i gwyno?"

"Ydynt yn wir, syr; ac y maent yn edrych yn bur ddigalon."

"A fedri di ddweyd i mi pa rai o honynt sy'n cwyno fwyaf yn erbyn y prisiad a'r codiad diweddaf, a phrisiad y degwm; oblegid, yn wir, rhaid i mi wneyd rhyw sylw bellach o'r rhai sy'n tuchan o hyd. O ïe, ydyw cyfrifon Cilhaul genyt ti?"

"Ydynt, syr."

"Wyt ti wedi gwneyd y balance i fyny i ni gael gweled pa fodd y maent yn sefyll."

"Nac ydwyf, syr, ond gallaf wneyd mewn munud."

"Aros, gad i mi gael gweled y prif bennau. O, dyma ddalen ein dyledion—gad weled beth ydynt?—1. Degwm. 2. Trethoedd. 3 Cyflogau. 4. Casglu y cynhaeaf. 5. Calch. 6. Tanwydd. 7. Gof. 8. Seiri. 9. Porfa gaeaf. Aros di, pa le y mae'r hyn a dalasom am aredig a hau a llyfnu yn y gwanwyn? Nid yw y talion hynny ddim yma."

"Nac ydynt, syr; darfu i ni, os ydych yn cofio, alw ar y tenantiaid cymydogaethol i aredig a hau a llyfnu i ni; a gwnaethant bob un ei ran yn bur rwydd i chwi, a hynny am ddim.

"Gwir iawn, baili—gwir iawn yr wyf yn