Tudalen:Gwaith S.R.pdf/113

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a merched Hafod Hwntw yn bur debyg i'w tad a'u mam."

"Pw, pw, baili, paid a phoeni dim ynghylch eu gwedd a'u gwisg a'u hymddangosiad. Pe caem ni unwaith olwg ar bridden yr hen guineas, dyna'r peth i ni. Yr oedd amryw briddenod o hen guineas yn y gymdogaeth yma ddeugain mlynedd yn ol, ond yr ydym ni wedi eu hadgyfodi oll o'u beddau. Da di, dyfeisia ryw ffordd i gael hen ŵr Hafod Hwntw i olwg Gilhaul. Gelli gychwyn ddiwrnod yn gynt wrth fyned i ffair Rhos. Galw heibio i Hafod Hwntw wrth fyned. Bydd yr hen ŵr yn sicr o fyned i'r ffair. Ceisia ganddo ddyfod i'r golwg wrth ddychwelyd adref; a throwch i orphwyso i'r Cross Keys, a dyro iddo iugaid cynnes o gwrw wedi ei speisio yn bur neis cyn ei gymeryd i edrych y ffarm. Gelli ddangos iddo fod yr adeiladau oll yn bur gryno ac yn bur gyfleus, a bod y mynydd defaid yn bur helaeth. Ni bydd dim eisiau crybwyll wrtho y nifer o ddefaid sydd gennym ni yno yn awr, na dim am fethiant ein cynnyg am y Southdowns. Cymer et ar draws y ddwy weirglodd, a'r ddôl wenith y tuhwnt iddynt. Ni byddai waeth heb ei gymeryd dros Rhos y Waun; ond gellil grybwyll wrtho fod y ffriddoedd oll yn rhai sychion a gwelltog, a da ragorol i wartheg hespion a merlod. Astudia ryw gynllun i gael yr hen ŵr drosodd i olwg y ffarm."

Galwodd y baili heibio i Hafod Hwntw fel yr addysgwyd ef: a thrwy lawer o gymell ac o daerni a son gryn dipyn am degwch haelfrydig Lord Protection, a gwerth ffafraeth teulu y Green, a chroesawder y gymdogaeth, ac eangder y ffarm; a thrwy i rai o ferched Hafod Hwntw