Tudalen:Gwaith S.R.pdf/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth fedd, dan gysgod ywen grin,
Dau blentyn oedd yn wylo,
Mewn ing a hiraeth ar y pridd,
Lle'r oedd eu mam yn huno.

Er fod y ddau mewn newyn mawr,
Ar lawr 'roedd darn o fara;
Edrychent arno weithiau'n syn,
Er hyn ni wnaent ei fwyta.

"Fy anwyl blant! gwnewch ddweyd i mi
Pam 'rych chwi mewn cyfyngder,
Ac yn gwastraffu'r bwyd eich dau,
A chwithau mewn fath brinder?"

Atebai'r bach, mewn gwylaidd dôn,
A'i heilltion ddagrau'n llifo,—
"Yn wir yr ym mewn eisiau llym,
Heb ddim i'w ofer-dreulio.

"Troi'n eneth ddrwg mae Mair fy chwaer,
 'Rwy'n daer am iddi fwyta;
Ni chafodd damaid heddyw'n wir,
A dir, hi bia'r bara."

"Nis bwytâf mwy," atebai hi,
"Nes bwyto Henri dipyn;
Mi gefais i beth bara ddoe,
Ond echdoe cad ef fymryn."

Ar hyn fe deimlwn dan fy mron
Y galon lesg yn gwaedu;
Eisteddais rhyngddynt ar y bedd
I geisio'u hymgeleddu.

Yn dirion gwesgais ddwylaw'r ddau,
Oedd fel y clai gan oerder;
A'r bachgen llwydaidd ataf drodd,
I adrodd eu cyfyngder.