Tudalen:Gwaith S.R.pdf/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ein tŷ oedd wrth y dderwen draw,
Gerllaw y dolydd gwyrddion,
Lle'r oeddym gynt yn chwareu o hyd
Yn hyfryd a chariadlon.

"Un tro, pan oeddym oll yn llon,
Daeth dynion creulon heibio,
I fynd â'n tad i'r môr i ffwrdd;
Ni chawn mwy gwrdd mohono.

"Ni wnaeth ein mam, byth ar ôl hyn,
Ond wylo'n syn a chwynfan,
Gan ddistaw ddweyd, yn brudd ei gwedd,
Yr â'r i'r bedd yn fuan.

"Un hwyr, pan ar ei gwely'n wan,
A'i hegwan lais crynedig
Galwodd ni'n dau, mewn tyner fodd,
A d'wedodd yn garedig,—

"'Fy anwyl blant! Na wylwch chwi,
Gwnewch dyner garu'ch gilydd:
Dichon daw'ch tad yn ol yn glau,
I'ch gwneyd eich dau yn ddedwydd.

"'Ond os na ddychwel byth eich tad,
Cewch Dduw yn Geidwad tyner;
Mae Ef i bob amddifad tlawd
Yn Dad a Brawd bob amser.'

"Yna, ar ol ymdrechu'n gu
I sychu'n dagrau chwerw,
Cusanodd ni, wrth droi'i phen draw,
Gan godi'i llaw a marw.

"Ein hanwyl fam ni chawn byth mwy
I'n harwain trwy ofidiau;
Ac ofni'r ym, mewn dirfawr fraw,
Na ddaw ein tad byth adre',