Tudalen:Gwaith S.R.pdf/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod Mr. Careful yn haeddu tlws arian am y cae maip uchaf, a sylwent fod ei gnwd gwenith yn hynod o lân ac o wastad, ond ei fod braidd yn ysgafn: ac yna, ar ol sisial ychydig o eiriau yng nghlustiau eu gilydd, a nodio, a wincio, a hwm-hamio, cryn dipyn, darfu iddynt gofnodi i lawr yn eu llyfr godiad o naw punt at drethoedd plwyfol Mr. Careful, heb ofyn iddo gymaint ag un gofyniad, na cheisio ganddo un gair o eglurhad am ddim o hanes y ffarm, nac o'r draul a gymerodd i'w gwella; a dyna oedd ei bedwaredd wobr am yr welliantau amaethyddol yn Nghilhaul Uchaf. Yr oedd rhai o'r cymydogion cyfrwysaf a hwyaf eu pennau yn awgrymu y dylasai John Careful fod wedi cyrchu ychydig o French Brandy i'r tŷ erbyn dyfodiad bol y degymwr heibio, ac y buasai yn burion peth fod ganddo alwyn o gwrw da wrth law pan oedd y priswyr yn gwneyd i fyny eu cyfrif o werth ei dyddyn.

Yn lled hwyr brydnawn y dydd ar ol hynny, daeth Peggy Slwt Slow, gwraig yr hen Ned Slow, at y drws; ac wedi gwneyd wyneb hir hyll crychiog, dywedodd fod Ned yn methu cael dim gwaith er's llawer dydd, a'u bod heb yr un tamaid o fwyd yn y tŷ; a bod yr hyn a oedd Ned wedi gardota iddynt ddydd Sadwrn, a dydd Sul, a dydd Llun, yn y cwm draw wedi darfod; a'i bod hi wedi cymeryd i fyned drwy y cwm yma heddyw, mewn gobaith o gael tipyn bach i'w cadw hwy a'r plant yn fyw dan ddydd Sadwrn, pan y cai eu merch hynaf Pol (os gallent gael ei hesgid oddiwrth y cobbler heb dalu am ei thrwsio) neu ynte y cai ei brawd Bob fyned i lawr y dyffryn i gardota ychwaneg iddynt: a chwanegai Peggy ei bod yn mawr obeithio y caent eu henwau