Tudalen:Gwaith S.R.pdf/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

John Careful fwyfwy, ac yn ddwysach ddwysach, ei fod wedi cael cam, a'u bod wedi ymddwyn yn annheg iawn tuag ato. Ac un bore, pan ydoedd ar dipyn o neges yn yr Efail wrth y dafarn, cwynodd yn lled uchel, ac mewn iaith gref, yng nghlywedigaeth rhyw segurwyr masweddgar a diog oedd yn ymlechian o amgylch yno, nid yn unig ar berson y plwyf, a'r degymwr, a'r cardotwyr, ond hefyd ar y meistr tir a'r steward. A'r diwrnod cyntaf oll ar ol hynny darfu i Bob Clep, neu Jack Cant, neu Mrs. Gossip, neu Bessy Tattle, gario y cyfan oll a ddywedodd, a mymryn bach dros ben hefyd, i deulu y steward; a rhoddwyd llinell ddu ar unwaith ar gyfer ei enw yn llyfr private y steward, ac anfonwyd gair am dano fel tenant ystyfnig a grwgnachlyd y prydnawn hwnnw at ei arglwydd tir, a deallwyd yn fuan drwy yr holl ardal fod John Careful druan wedi llwyr golli ffafr y steward a'i deulu.

Oddeutu yr amser hynny darfu i Mr. Jacob Highmind, yr hwn oedd newydd gael pedwar cant o bunnau ar ol ei hen ewythr o Lundain, briodi Miss Jenny Lightfoot, yr hon oedd newydd gael dau gant o bunnau iddi ei hun ar ol ei mam gu; ac yr oedd y ddeuddyn ieuainc, gan eu bod newydd briodi, yn awyddus iawn am gael ffarm er dechreu byw; ac felly darfu i Jacob un bore, wrth groesi moel ei gymydog, saethu dwy betrisen, a phrynnu pwys o'r "gunpowder tea" goreu, i'w hanfon yn anrheg i wraig y steward; ac awgrymodd yn gynnil yn ôl—ysgrifen ei lythyryn boneddigaidd y byddai yn dda iawn iawn ganddo ef a'i wraig newydd Jenny gael ffarm dan Lord Protection. Yn bur fuan ar ol hyn, yn lled hwyr