Tudalen:Gwaith S.R.pdf/77

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meistri tiroedd a'u stewardiaid wedi bod yn anialeiddio yr Iwerddon drwy y blynyddoedd, nes ydynt o'r diwedd wedi torri eu tenantiaid, ac wedi torri eu hunain hefyd, ac wedi achosi tlodi mawr drwy rannau helaeth o'r wlad werdd honno. Y mae rhai parthau o Gymru wedi cael eu gwasgu i gyflwr lled Iwerddonaidd. Y mae y ffyrdd a'r adeiladau yn warth i'r oes. Y mae yn drwm iawn fod arglwyddi tiroedd mor ddiwladgarwch, mor ddiddyniolaeth, ac mor gibddall i'w lles eu hunain. Yn lle ymhyfrydu yn ffyniant ac yn nedwyddwch eu tenantiaid, y maent yn llawenychu yn ysbryd ac yn moesau gwasaidd eu caethiwed a'u tlodi. Gwyddoch yn eithaf da ein bod ni bob amser wedi byw mor gynnil ag oedd bosibl i ni. Gwnaeth hen gyfrwy fy nhad cu y tro i ni rhyngom oll tan y Gwanwyn diweddaf, pan y cawsom gyfrwy newydd cryf a rhadlawn; ac yr ydych yn cofio yn burion ddanodion y mân—squires spardynawg, meibion y steward, pan yr aeth fy mrawd ieuangaf i ffair Galanmai ar gefn y cyfrwy newydd am y tro cyntaf. Rhaid i bob cyfrwy gael ei daith gyntaf rywbryd. Yr oedd fy mrawd, ar ebol du a'r cyfrwy newydd, yn edrych yn bur dda y bore hwnnw. Gwn nad anghofiwch byth mo edrychiad na geiriati ladies ieuainc drawing—room y steward pan yr aeth fy chwaer dal wridog Betsy, dair blynedd yn ol, heibio i'w ffenestr fawr yn ei shawl wlanen newydd i edrych am ei chyfnitheroedd o'r Dyffryn: ac yr ydys yn dweyd fod yr hen ffarmwr cloff diwyd Edward Sparing i lawr yn llyfr private y steward am ei fod wedi prynnu dog—cart gref dda gan ei gymydog cywrain Wheelwright Davies i'w gario ef a'i ferch wylaidd lân lanwaith Elen i farchnad yr ŷd a'r ymenyn.