Tudalen:Gwaith S.R.pdf/82

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dda: yr wyf wedi addaw cyfarfod tri o'm cyfeillion ar ben Bryn Grug y Grouse am hanner awr wedi deg."

Dydd yr Hunt a ddaeth; ac yr oedd Ffarmwr Careful wrth yr Hotel, yn ol ei air, erbyn y funud benodedig: ac yr oedd yn edrych yn bur dda ar ol cerdded yno ar ei draed. Ymhen pum munud ar ol iddo gyrraedd yno, gwelai Lord Protection, ei feistr tir, yn myned heibio yn mraich Squire Speedwell. Y funud y canfu y Squire Mr. Careful yno, cododd ei fys arno i ddyfod yn mlaen, a dywedodd,—

"O my lord, dyma eich hen denant John Careful, yr hwn y bum yn crybwyll wrthych am dano y nos o'r blaen."

"O, ho, bore da, Mr. Careful," ebe Lord Protection; "gwn oddiwrth fy llyftau, ac oddiwrth yr hyn wyf yn glywed gan bawb, eich bod chwi yn un o'r tenantiaid goreu a mwyaf ymdrechgar a feddaf. Y mae yn wir yn ddrwg iawn gennyf eich bod yn myned i ymadael. Derbyniais air yn ddiweddar oddiwrth fy steward yn hysbysu eich bod yn cwyno ar y rhent, ac yn enwedig ar y codiad diweddaf. A ydyw y rhent mewn gwirionedd yn rhy uchel, Mr. Careful? Nis mynnwn er dim i'ch ffarm chwi fod yn rhy ddrud i chwi allu talu am dani. Nid wyf yn gallu cofio yn awr yn gywir am ei hansawdd. Nid wyf erioed wedi cael hamdden a chyfle i edrych yn fanwl dros Cilhaul Uchaf. Ydych chwi yn barnu yn gydwybodol ei bod hi yn rhy ddrud?"

"Ydyw yn wir, my lord, y mae yn rhy ddrud. Yr wyf fi a'm teulu wedi gwneuthur prawf teg o hrnny. Ffarm wlyb, oer, amlwg, lechweddog,