Tudalen:Gwaith S.R.pdf/83

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lawn o gerryg, ydyw—yn gofyn traul a llafur anghyffredin i'w thrin. Darfu i ni, yn y blynyddoedd diweddaf, wario llawer mewn gwelliantau. Yr oedd y codiad yn un trwm afresymol, ac yn un hynod o anamserol; a darfu i briswyr eraill gymeryd achlysur a mantais oddiwrth brisiad eich goruchwyliwr chwi i wneuthur niwaid mawr i ni. Yr ydym, yn wir, my lord, wedi cael cam cywilyddus; a darfu i mi gwyno wrth eich steward, a dywedyd nad oedd dim modd i mi dalu am y ffarm yn ol y rhent a'r trethoedd a'r prisiau presennol; a rhoddodd y steward i mi notice i ymadael, ac awgrymodd y byddai yn ddigon hawdd iddo osod y ffarm y diwrnod a fynno."

"Ac, my lord," ebe Squire Speedwell, yn bur sydyn, "y mae John Careful a'i deulu yn penderfynu myned i America. Byddai yn resyn yn wir, my lord, iddynt ymadael ac ymfudo felly. Gadael eich estate chwi. Gadael hen aelwyd eu tadau; a gadael gwlad hoff eu genedigaeth. Tad cu John oedd un o'r dynion cryfion fu'n cadeirio eich tad cu chwi drwy y ddinas yma yn amser yr election fawr; a bu ei dad ef yn cario eich tad chwi ar achlysur y gyffelyb fuddugoliaeth ar ol hynny; ac y mae ganddo yn awr dri o feibion talion gwridog cryfion, nad ellid byth gael rhai mwy noble i gario eich mab chwi yn yr election nesaf. Da chwi, my lord, er mwyn pob peth, gwnewch rywbeth o'u tu yn yr amgylchiad a'r bwlch yma. Yn wir nid yw ddim yn amser yn awr i daflu ymaith y fath hen denant ymdrechgar a gofalus."

"Wel, mi wnaf yn sicr. Mynnaf siarad â'r steward ar y mater yn yr Audit nesaf. Yr wyf fi yn credu fod fy stewardiaid i yn ceisio gwneyd eu