Tudalen:Gwaith S.R.pdf/95

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

diog llygad—gauad ag ydynt ding—dong yn yr un man o hyd, yn esgeuluso neu yn gwrthod pob gwelliant profedig er teced y byddo yn cael ei osod ger eu bron, ac er taered y byddo yn cael ei gymhell i'w hystyriaeth; ond yr wyf ar yr un pryd yn protestio yn erbyn cynlluniau gwylltion, a chyfrifon bylchog gwallus, y scriblwyr menyddboeth penfeddal sy'n ysgrifenu llythyrau i'r newyddiaduron am geiniog y line gan y swyddfa, neu am gig rhost a grog gan arglwydd y tyddyn: peth ofnadwy ydyw ysgrifenu am gyflog er mwyn boddhau pobl nad ydynt am wybod y gwirionedd."

"Eh, oh, John, yr wyt ti yn dechreu twymo mymryn yrwan, ac yn myned braidd yn ddoniol. Rhaid i mi fyned yn awr. Glywi di swn gwyllt y bytheuaid? Y maent yn fyw ar eu full cry. Yr wyf yn gobeithio cael dy weled yn fuan eto; ac fel y dywedais o'r blaen, byddaf yn sicr o gofio am dy achos pan ddaw diwrnod yr Audit."

Daeth dydd yr Audit, a gofynnodd y lord i'r steward paham yr oedd John Careful yn ymadael o'r Cilhaul Uchaf. Atebodd y steward mai o herwydd ei fod o hyd yn achwyn ar y codiad diweddar, a'i fod wedi dywedyd drachefn a thrachefn nad allai ddim talu y rhent presennol; ac am fod pobl ieuainc cryfion, newydd briodi, pur gyfrifol, yn gwbl barod i gymeryd y ffarm am y rhent presennol.

"Ond dywedir i mi," meddai'r lord, "fod John Careful wedi gwario llawer iawn mewn gwelliantau yno, a bod ei blant oll yn rhai sobr, deallus, a gweithgar, dros ben, a'u bod wedi llafurio llawer yno. Byddai yn dda iawn gennyf pe