Tudalen:Gwaith Sion Cent.pdf/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfieithu Llyfr yr Offeren ac Efengyl Ioan i'r Gymraeg. Fel ereill o'r myneich gwynion yr oedd ganddo ddyddordeb mewn adaeladaeth, fel y tystia Pont Sion Cent dros y Fynwy. Tystia y cywyddau taw gwr gostyngedig o galon oedd y bardd, a chadarnha nodiad gan Iolo Morgannwg hyn. Cynhaliwyd Eisteddfod dan nawdd Llewelyn ap Gwilym yn y Ddôl Goch yn Emlyn. Daeth Sion Cent a Rhys Goch Eryri yno. Rhys oedd oreu ar foliangerdd ond Llywelyn a rodd y blaen a'r gadair i'r wengerdd, ond ni fynnai Sion y Cent ei wisgo ag addurn Cadair Ceredigion a Dyfed, eithr i Dduw y rhoddai ef y blaen, am hynny y gwedai rhai mai Duw ei hunan a enillws y gadair hon."

Cymerwyd gofal wrth ddethol y cywyddau, gan y priodolir llawer o gywyddau i Sion Cent yn unig am eu bod yn datgan symbyliadau yr un mudiad. Y mae rhai amheus yn y casgliad hwn, a nodir hynny yn y lle priodol. Sylfaen- wyd y testyn yn bennaf ar lawysgrifau Llan- ofer; y mae acen y Wenhwyseg drwyddynt, a cheisiais ei chadw. Dymunaf gydnabod y ddi- weddar Anrhydeddus Augusta Herbert o Lan- ofer, a'i mab, y Cadfridog Syr Ifor Herbert o Lanarth, am lawer caredigrwydd i mi. Boed rhad Duw arnynt.

T. MATTHEWS.