Tudalen:Gwaith Sion Cent.pdf/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar oror, wiw yr arwydd,
Hyd yno af, Hodni swydd.
Rhoed ar groes o wydd Moesen,
Rwng Desmas a Dismas hen,
A'i fron gron farw'n i gred
Enwog wr yn agored
I roi i galon yn rhydd
I'r byd ffordd y mae'r bedydd.
Talodd ddeugain cant weli,
Drwy swm, a naw, drosom ni;
A'i ddwyfraich a'i ddiofryd,
Dros i gorff ar draws i gyd.
Yn erbyn o, ddyn a ddel
I nef ato, 'n i fetel,
A thri pump cadarn arnaw,
A thrigain, gweli drain draw.
Ni thale'r byd, gwryd gur,
Byth i ddelw bwyth i ddolur.
Pedwar defnydd, gwydd goddef,
Y grawys oedd i grwys ef,—
Sef salma[1] o palma pur,
Sedrws, Sipresws prysur.
Ar y groes, pumoes y 'pêl,
Y dringawdd pedwar angel,—
Marc yw'r llew mawr cur llid,
Lucas mal ych a locid,
Mathias angel melyn
O ddeall Duw ar ddull dyn,
Delw Ievan ochlan uwchlaw

  1. Salma, baich, yn enwedig pwn anifail; ceir y gair yn y Ffrancaeg yn y ffurf somme. Tybid yn y canol oesoedd fod breichiau'r groes o balmwydd (palma), ei throed o gedrwydd (cedrus), ei chorff o gypreswydd (cupressus), a'r ystyllen o olewydd (oliva). Ceir y pedwar yng nghywydd Iolo Goch. Am "sipresws prysur" gwel yr Eirfa ar y diwedd.