ei gwell fel morwyn, ac nis gwn beth a wnawn hebddi." Yr oedd ein chwaer ieuanc yn cyn— hyddu cymaint yn ei rhinweddau, nes y tyb— iodd Mrs. Ll—— ei bod yn haeddu mwy o gyflog nag a allai hi roddi iddi; ac ysgrifennodd at foneddiges gyfoethog yn Llundain yn ei chylch. Daeth llythyr yn ol yn hysbysu fod yn dda gan y foneddigés gael ei hanes—y rhoddai £20 o gyflog y flwyddyn gyntaf iddi; ac yr ychwanegai ryw faint bob blwyddyn os byddai yn ei boddhau.
Yr ydym wedi dilyn hynt y chwaer ieuanc ragorol hon, nes yr ydym yn ei chael yn gwasanaethu yn nheulu un o brif areithwyr y Senedd. Yr oedd y boneddwr hwn yn cadw tri o dai—un yn Llundain, un yn Bath, ac un yn Norfolk. Gwelwn hi ynghanol profedigaethau newyddion a pheryglus y servants' hall— profedigaethau a fuont yn angeuol i grefydd a moesoldeb miloedd o bobl ieuainc. Ceisiwyd ar y cyntaf wawdio ei chrefydd allan o honi; wedi hynny ceisiwyd ei denu allan o honi drwy rith—garedigrwydd, a hudoliaethau poblogaidd; ond daliodd fel aur pur yn y ffwrn. Gwelodd, gyda galar, y gwastraff a'r anonestrwydd oedd yn myned ymlaen. Bu mor onest a rhybuddio ei chydweinidogion yn garedig, ac awgrymodd y dylai eu meistr gael gwybod yr hyn oedd yn myned ymlaen. Tynnodd hynny ystorm ofnadwy am ei phen. Gofynnai iddi ei hun yn fynych, Beth yw fy nyledswydd?" Yr oedd ei chydwybod yn dweyd mai achwyn ar ei chydweinidogion a ddylasai; ond yr oedd. moesreolau y servants hall yn gosod allan achwyniad yn waeth na lladrad na llofrudd-