Tudalen:Gwaith barddonol Islwyn - 1832-1878 (IA gwaithbarddonoli00islw).pdf/295

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

SAINT ENLLI. DEG awen, cân dy gywydd I gynnar ddiffynfa'r ffydd, Enlli facli! enillaf hwyl O'th gofion union anwyl. Cofio 'th saint fel cyfoeth sydd, Neu foeth i hynafiaethydd. Yr oedd ffydd ar ddiffoddi Yn y 'storm, hyd nes i ti Fwrw gwyn dy fore ganwyll O'r môr uwch y tramawr wyll. Dwy filltir gywir dy gylch, A'r eigion yn gaer ogylch- Un o hyd-os bychan oedd Dy led, O diail ydoedd Rhyfedd glod dy grefydd glau, Fel haul dy ddwyfol olau. Er lleied am-led dy dir, Y fendith oedd gyfandir. Ni fu erwi gan feirwon, O wir saint mor fras a hon; Yn dirion cuddia d'oror Ugain mil wrth eigion môr; Ugain mil o'th seint-hil sydd Yn llenwi 'th erwi llonydd. feda 'r adgyfodiad Wych doraeth o'th odiaeth had. Ca Llawddog gawell heddwch A hun lawn o fewn dy lwch. Dirfawr abad fu Derfel I'r ynys hon, o ran sel; Yntef sydd dan lonydd len Dew orchudd dy dywarchen. Diboen i'r abad Beuno Yw gwely rhad dy gul ro. Mae Cadfan o dan dy do Hoff was i'r ne 'n gorffwyso, Yn disgwyl egwyl agor, Ryw loew ddydd, ei farwol ddôr. Gwir brofodd glwysgor Brefi Fawr gnwd ffydd ein Dyfrig ni; 281