Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dydd i'w dreulio mewn sancteiddrwydd,
Dydd i weithio gwaith yr Arglwydd,
Dydd i ddarllen a gweddio,
Dydd i addoli Duw a'i gofio,

Dydd i orphwys rhag gwaith bydol,
Dydd i weithio gwaith sancteiddiol;
Ac nid dydd i fod yn segur,
Yw dydd Duw, medd geiriau'r 'Sgrythyr.

Er bod Duw yn erchi coffa
Cadw'r Sabboth yn ddisigla';
Nid ym ninnau'n ceisio cadw
Un gorchymyn mwy na hwnnw.

O'r holl ddyddie nid oes un-dydd
Ym ni'n dreulio mor ddigrefydd,
Mor anneddfol, mor esgymun,
A'r dydd Sabboth tra fo'r flwyddyn.

Dydd i feddwi, dydd i fowlian,
Dydd i ddawnsio, dydd i loetran,
Dydd i hwrian, a gwylhersu,
Yw'r dydd Sabboth gan y Cymry.

Dydd i eiste a dyfalu,
Dydd i ymladd, ac ymdaeru,
Dydd i weithio gwaith y cythrel,
Yw dydd Duw mewn llawer cornel.

Y dydd ddylem ei sancteiddio,
Ym ni fwyaf yn ei 'nurddo,
I amherchu ein Prynwr tirion
A dolurio'i gywir weision.

Treulia'r Sabboth oll yn llwyr
Mewn sancteiddrwydd fore a hwyr;
Ac na ddyro bart na chyfran
O ddydd Dduw i addoli Satan.