Y RHYFEL MAWR.
A DORRODD ALLAN YN Y FLWYDDYN 1641.
O NA bai fy mhen yn ddyfroedd,
Mi a foddwn eto'r tiroedd,
O maint cymaint yw'r ysgelerder,
Maint yw'r bâr, a'r llid, a'r balchder.
Na bai fy llygaid yn ffynhonau,
Fe ffrydiai o honynt allan ddagrau,
Yn ddibaid bob dydd, bob nos,
Am fod 'nawr ond gormod achos.
Pwy a fu'sai'n meddwl unwaith,
Am y gwyr oedd deg eu baraith,
Fod bradwriaeth mor echryslon,
Yn cael ei meithrin yn eu calon?
Y mae'r neidr las yn gorwedd,
Dan y perthi mwyaf hoffedd!
Lle bo ffrwd y dŵr yn dawel,
Mae yno ddyfnder idd ei ochel.
Yn awr y mae eu hunan gwaedlyd,
Yn dra hyspys iawn i'r holl-fyd,
Gan nad dim ond gwaed y gwirion
A dyrr syched fath genawon.
Llawer gwaith y bu'r Philistiaid
Yn gorthrymu'r Israeliaid,[1]
****
Erioed ni bu y fath beth yma,
Gan farbariaid gwyllt o'r India;
Tebyg gennyf fod y cythrel,
Ym mhob aelod o'r gwrthryfel.
- ↑ Gweddill y pennill ar goll.