Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GALARNAD LLANDDYFRI.

MENE Tecel,[1] Tre Llanddyfri,
Pwysodd Duw di yn dy frynti;
Ni chadd ynnod ond y sorod;
Gwachel weithian rhag ei ddyrnod.

Gwialen dost sydd barod iti,
Er ys dyddie am dy frynti;
A'th anwiredd sy'n cynyddu;
Gwachel weithian gael dy faeddu.

Hir yr erys Duw heb daro,
Llwyr y dial pan y delo:
Am yr echwyn a'r hir scori,
Och! fe dal ar unwaith iti.

Mae'n rhoi amser iti wella,
Mae'n rhoi rhybudd o'r helaetha;
Cymer rybudd tra fo'r amser,
Onide gwae di ar fyrder.

Pa hwya mae Duw'n aros wrthyd,
Am edifeirwch a gwell fywyd,
Waethwaeth, waethwaeth yw dy fuchedd
Ond gwae di pan ddel y diwedd.

Lle bo Duw yn hir yn oedi,
Heb roi dial am ddrygioni,
Trymaf oll y fydd ei ddyrnod,
Pan y del i ddial pechod.

Gwachel dithe ddial Duw,
Fe ddaw ar frys, er llased yw;
A'i draed o wlan, a'i ddwrn o blwm,
Lle delo'n llaes fe dery'n drwm.


  1. Daniel 5:27 "Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin."