ANERCHIAD I'R BRUTANIAID.
AIL Brutus fab Sylfus, Brutaniaid brwd hoenus,
Caredig, cariadus, cyd-redwch i'm bron,
I wrando'n 'wyllysgar, â chalon ufuddgar,
Fy llefain a'm llafar hiraethlon.
Mae rhôd y ffurfafen yn dirwyn yn bellen
O'n heinioes nes gorffen, heb orffwys nos na dydd;
A ninne heb feddwl, nes dirwyn y cwbwl,
Yn cwympo i'r trwbwl tragywydd.
Fel llong dan ei hwyle, yn cerdded ei siwrne,
Tra'r morwyr yn chware, neu chwyrnu ar y nen,
Mae'n heinoes yn pasio, bob amser, heb staio,
Beth bynnag a wnelo ei pherchen.
Mae'r ange glas ynte, yn dilyn ein sodle,
A'i ddart, ac â'i saethe, fel lleidir di-sôn;
Yn barod i'n corddi, yng nghanol ein gwegi,
Pan fom ni heb ofni ei ddyrnodion.
A'r bywyd fel bwmbwl ar lynwyn go drwbwl,
Sy'n diffodd cyn meddwl ei fod ef yn mynd;
A ninne cyn ddyled nad ym yn ei weled,
Nes darffo iddo fyned i helynt.
Mae'r byd ynte'r cleirchyn, yn glaf ar ei derfyn,
Bob ennyd yn 'rofyn rhwyfo tua'i fedd;
A'i ben wedi dotio, a'i galon yn ffeintio,
A'i fwystfil yn wastio yn rhyfedd.
Rým ninnau blant dynion, heb arswyd nac ofon,
Yn trysto gormoddion i'r gŵr marwaidd hen;
Fel morwyr methedig, a drystant mewn perig',
I'r llongau sigedig, nes sodden.