O! nedwch in' drysto i'r byd sy'n ein twyllo,
Fel iâ pan y torro, gric, dan ein tra'd,
A'n gollwng heb wybod, i'r farn yn amharod,
Cyn ini gydnabod ei fwriad:
Ond moeswch yn garcus in' bawb fod yn daclus,
I fyned yn weddus, nis gwyddom pa awr,
O flaen y Messias, yng ngwisg y briodas,
A thrwsiad cyfaddas i'r neithiawr.
A nadwch ein dala, pan ddêl yr awr waetha,
Mewn medd-dod, puteindra, rhag rhwystro i'r daith,
Heb oyl yn ein llestri, heb gownt o'n talenti,
A'r cwbwl o'n cyfri' yn berffaith.
Mae'r fwyall ar wreiddie y cringoed er's dyddie,
Mae'r wyntyll yn dechre dychryn yr ûs;
Mae'r angel â'r cryman yn bwgwth y graban,
I'w bwrw i'r boban embeidus.
Mae'r farn uwch ein penne, mae'r dydd wrth ein dryse,
Mae'r udgorn bob bore yn barod i roi blo'dd;
Mae'r môr a'r mynwentydd, ac uffern, yn ufudd
Roi'r meirw i fynydd a lyncodd.
A'r Barnwr sydd barod, a'r saint sy'n ei warchod,
A'r dydd sydd ar ddyfod i ddifa hyn o fyd;
A galw'r holl ddynion o flaen y Duw cyfion,
I gyfri am y gawson o'i olud.
'R ŷm ninne'n ymbesgi ar bechod a brynti,
Heb feddwl am gyfri na gorfod ei roi,
Yn wastio'n talente i borthi'n trachwante,
Doed barn, a'i diale, pan delo'i.
Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/38
Prawfddarllenwyd y dudalen hon