Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'n anfoes im draethu ein campau ni'r Cymry;
Rhag cwilydd mynegi'n hymddygiad i'r byd;
Eto, rhaid meddwl y traetha Duw'r cwbwl,
Pan ddelo'r dydd trwbwl i'w trefnyd.

Gwell i ni 'r awran gael clywed eu datgan,
Er peri i ni'n fuan 'difaru tra fom,
Na gweled ein taflu i'r tywyll garchardy,
O eisie 'difaru tra fyddom.

Gan hynny mi fynnwn gael gennych, pe gallwn,
Ymbilio am bardwn yr ennyd y boch;
A gwella'n 'wyllysgar, cyn eloi'n ddiweddar,
Rhag bod yn edifar pan ddeloch.

Mae'n ofer 'difaru, a chrio, a chrynnu,
Pan ddeler i'n barnu bawb ar y barr;
Ni cheir ond cyfiawnder, er cymaint y grier,
Pan elo hi'n amser diweddar.

Meddyliwn, gan hynny, cyn delo Crist Jesu
O'r nefoedd i'n barnu, bob un wrth ei ben,
Am fod yn edifar, a deisyf ei ffafar,
Cyn tafler ni i'r carchar anniben.

Fe ddaw yn dra digllon, a llu o angylion,
I ddial ar ddynion, ei ddirmyg mor ddu,
Yn daran echrydus i'r bobl anrasus,
Sy 'rwan mor frywus yn pechu.

Yna, o waith cymaint y fydd y digofaint,
Ei weision, a'i geraint, a garai mor gu,
A'i sanctaidd angylion, y grynant yn greulon,
Pan ddelo mor ddigllon i farnu.

Yr haul a dywylla, y lleuad a wrida,
Y nefoedd a gryna, bob modfedd yn grych,
Ar stowta o blant dynion, rhag echryd ac ofon,
A gria'n hiraethlon wrth edrych.