Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A deflir yn g'lyme, mewn cedyrn gadwyne,
I uffern, i'r poene tragywydd.

Yn uffern y llefan, gan flined eu llosgfan,
Yn ebrwydd, ar Abra'm, am ddafan o ddwr;
Pe llefent hyd ddiffin, ni chânt hwy un dropyn,
Na thamaid, na thipyn o swcwr.

Can's yno'n dragywydd, mewn carchar a chystudd
(Heb obaith y derfydd eu dirfawr gur),
Yr erys anwiredd, yn rhincian eu dannedd,
Heb derfyn na diwedd o'u dolur.

Ac yno'r awn ninne, i estyn ein gwefle,
Am dreulio ein dyddie mewn pechod mor dal,
O ddiffyg in' wylio, a dyfal weddio,
A gwella, cyn delo'r dydd dial.

Meddyliwn, gan hynny, tra'r amser yn gadu,
Yn brudd edifaru, nid yw foru i neb,
A 'madael â'n brynti, a'n gwagedd, a'n gwegi,
Cyn delom i gyfri' ac ateb.

Duw Iesu dewisol, y brynaist dy bobol,
O'r ffwrnais uffernol, oedd ffyrnig ei phwys,
Cadw'n heneidie pan ddelont i'r frawdle,
A dwg hwy i gadeirie paradwys.

Os gofyn Deheubarth, na Gwynedd o unparth,
Pwy ganodd y dosparth, i'ch dispwyll rhag ing,
Eglwyswr, sy'n hoffi eich dad'raidd o'ch didri,
A'ch cofio am eich cyfri' cyfyng.