Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hyn i gyd a welodd Lloeger,
Yn nhref Llundain yn hwyr amser;
Hyn a weli dithau, Cymru,
Os â'th bechod ni 'madawi.

O! gan hynny, Cymru, ystyr,
Mor anhygar, mor ddigysur,
Mor ddigariad, mor aflawen,
Ydyw marw'n llyn o'r chwarren.

Dyma'r angau wyt yn haeddu,
Am dy bechod, Cymru, Cymru;
Dyma'r angau sy ar dy feder,
Oni throi at Dduw ar fyrder.

Mae Duw'n disgwyl, er ys dyddie,
Am it droi a gado'th feie;
Eisie troi, mae Duw yn barod,
A phlag ddial dy holl bechod.

O gan hynny, Gymru, mwrna,
Gad dy bechod, edifara:
Dysg gan Ninif geisio heddwch,
Cyn del dial a diffaethwch.

Cyn y tynno Duw ei gledde,
Cais ei heddwch ar dy linie:
Rhy ddiweddar it ymbilian,
Gwedi tynno ei gledde allan.

Cwymp i lawr wrth draed dy Brynwr,
Megis Magdlen wyla'r hallt-ddwr;
Sych a'th wallt ei ddeu-droed rasol;
Fe ddiddana'r edifeiriol.

Cyfod allor megis Dafydd,
Offrwm iddo yspryd cystudd:
Deisyf arno stopio'r angel
Sydd ar feder lladd dy gene'l.