Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mwrn mewn sach fel pobol Ninif,
Tro oddiwrth dy feie aneirif;
Duw newidia'th farn a'th ferdid,
Os tydi newidi'th fywyd.

Tramwy i'r demel nos a dydd,
Megis Aron mwrna yn brudd,
Llef am ras ar Grist dy Geidwad,
Cyn y delo'r cowyn arnad.

Cur dy ddwyfron yn gystuddiol,
Fel y Publican edifeiriol:
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Cyn y'th dorrer ffwrdd â'r clefyd.

Bwyta beunydd fara dagrau,
Megis Dafydd am dy feiau;
A gwna'th wely'r nos yn foddfa,
Cyn i'r chwarren wyllt dy ddifa.

Saf fel Moesen yn yr adwy,
Lle mae'r plag ar fedr tramwy:
Cais gan d'Arglwydd droi'i ddigllonedd,
Felly dengys it drugaredd.

Megis Phinees cymer siaflyn,
Lladd y rhai sy'n peri'r cowyn,
Cospa â'r gyfraith afreolaeth,
Duw a'th geidw rhag marwolaeth.

Gado Sodom, tynn i Zoar,
Gochel ddistryw, bydd edifar:
Gwrando'r angel sy'n rhoi rhybudd,
Cyn y del y plag i'th drefydd.

Gado'r moch a'r bobol feddwon,
Fel y gade'r mab afradlon;
Tynn i dŷ dy dad rhag newyn,
Cyn dy dorri lawr â'r cowyn.