Tudalen:Gwaith yr Hen Ficer.pdf/7

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

GANWYD Rhys Prichard yn Llanymddyfri, tua 1579. Yr oedd yn hynaf o blant tad da ei fyd. Aeth i Rydychen, i Goleg yr Iesu, yn 1597; cymerodd ei urdd a'i radd yn 1602; a daeth yn ol yn ficer Llandingad a chapelwr Llanfair ar y Bryn. O hynny i'w fedd, bu'n byw yn ei dŷ ei hun yn Llanymddyfri, rhwng y ddwy eglwys. Gŵr prudd a charcus oedd, mewn oes lawen a gwastraffus,—

Rhai sy'n chwerthin am fy mhen,
Am fod yn sobr heb fawr wên:
Minne'n wylo'r dagrau heilltion
Weld pob rhai o'r rhain yn feddwon.

Y meddw chwarddodd am fy mod
Yn cadw ngheiniog yn fy nghôd,
Yn awr sy'n wylo'r dŵr yn ffrwd
Wrth fegian ceiniog fach o'm cwd.

Yr oedd iddo wraig, Gwenllian; a mab, "Sami Bach," gafodd fywyd gwyllt a marwolaeth ddisyfyd. Cafodd ffafr gan ddau archesgob, Abbott Biwritanaidd a Laud ddefosyniol, ficeriaeth Llanedi yn 1613, prebendariaeth yn Aberhonddu yn 1614, a changeloriaeth Tyddewi yn 1626. Ac nid segur oedd y Ficer yn ei swyddi; pregethodd mewn oes ddi-bregeth. Bu farw tua 1644, a chladdwyd ef yn Llandingad; ond ni wyr neb ple mae man ei fedd.

Daliodd i lefaru yn ei benhillion byrion, syml, llawn profiad. O 1646 hyd heddyw, goleuwyd ei