Ganwyll tuag ugain o weithiau. Bu Stephen Hughes, Gruffydd Jones o Landdowror, a'r Athro Rice Rees, ymysg casglwyr a chyhoeddwyr ei waith. Yn y gyfrol hon ceir y caneuon sy'n taflu goleuni ar fywyd Cymru yn ei oes ef ei hun. Treuliodd ei febyd ym mlynyddoedd olaf rhwysg Elizabeth, pan oedd y genedl yn un, a'r eglwys yn borth iddi. Yn ddyn, gwelodd ddwy blaid, dan deyrnasiad lago I. a Siarl I., yn graddol ymffurfio, ymchwerwi, a pharotoi i ryfel. Puritan oedd ef; ond arhosodd yn Eglwyswr a Brenhinwr. Ym merw y Rhyfel Mawr y bu farw.
Yr oedd ei Gymru ef yn dywell, meddw, anonest, ac aniwair; ac amcan ei bregethu a'i ganu oedd ei gwneyd yn oleu, sobr, gonest, a glân. O Loegr deuai awydd am gyfoeth ac awydd am bleser, plant naturiol llwyddiant masnach y dyddiau hynny. O Loegr hefyd, deuai Beibl a phla. Rhydd y ficer holl groesaw ei galon i'r Beibl bach. Y mae ei ddarluniadau o bla 1625 yn hynod gywir, yn ogystal a byw a chynhyrfus, fel y gellir gweled trwy eu cymharu â "Britain's Remembrancer" George Wither. Yn wir, ni cheir gwell darlun o dyfiant Puritaniaeth na'r hyn a fedrwn dynnu o benhillion y Ficer. Y peth yw Morgan Llwyd i ail hanner yr unfed ganrif a'r bymtheg, hynny yw'r Ficer Prichard i'r hanner cyntaf.
Ac o'r penhillion hyn y tarddodd llenyddiaeth gwerin Cymru. Canwyll, nwy, trydan,—dyna'r Ficer, Williams Pantycelyn, Islwyn.
Llanuwchllyn,OWEN M. EDWARDS.
- Rhag. 31, 1908.