orion, gŵg y byd yn peri iddo ddigaloni, na'i wên na'i lwgrwobrwy yn ei ddenu a'i lygad-dynu. Nis gellir ei brynu âg arian, na'i ddenu â gweniaeth. Mae amgylchiadau, fel y tywydd, yn newid yn barhaus, ond egwyddor yn aros yr un. Mae dynion nad oes ganddynt un cwmpawd arall i lywio eu llestr ond amgylchiadau. Dynion yr amgylchiadau ydynt, ac nid dynion egwyddorol: yn ol yr amgylchiadau yn ffurfio eu credöau, yn penderfynu eu symudiadau, ac yn rheoli eu holl fywyd. Ond y mae y dyn egwyddorol yn ffurfio ei gredo yn ol ei argyhoeddiad, ac yn ymlynu wrth y gwirionedd, beth bynag fyddo y canlyniad. Pryn ef beth bynag fyddo ei bris. Teimla nerth y geiriau, " Pryn y gwir, ac na werth." Nid oes dim yn gydwerth â gwirionedd. Nis gellir ei brynu am arian; nid yw y coin hwnw yn dderbyniol yn marchnad y gwirionedd. Yr oedd Ieuan yn deall gwerth gwirionedd, ac yn meddu digon o wroldeb moesol i ddilyn ei argyhoeddiad. Ni ddywedai ddim ond y gwir, ac ni wnai ddim ond yr hyn oedd iawn, mor bell ag y gallai ddeall a barnu. Mewn materion perthynol i'r gydwybod, honai annibyniaeth ar ddyn, gan roddi ei bwys a'i ymddiried ar Dad yr ysbrydoedd. Edrycha dynion yn aml ar hyn fel ystyfnigrwydd a balchder, ond edrycha Duw ar y cyfryw yn ei gydnabod Ef fel unig Arglwydd cydwybod. Mae gwirionedd, fel Duw Gwirionedd, yn anghyfnewidiol yr un bob amser, ac yn mhob gwlad, ac y mae yr hwn sydd yn ymlynu wrth y gwirionedd fel "mynydd Sion, yr hwn ni syflir." Yr oedd ein cyfaill yn hollol benderfynol yn ei ymlyniad wrth y gwirionedd. Nid oedd yr holl olygfeydd a'r temtasiynau a'i cylchynent ond yn rhoddi iddo well cyfleusdra i ddangos i'r byd wirionedd a phurdeb ei egwyddorion, fel y mae poethder y frwydr yn rhoddi mantais i filwr da i ddangos ei wroldeb a'i fedrusrwydd. Nid corsen yn cael ei ysgwyd gan wyntoedd amgylchiadau ydoedd ef, ond derwen yn dal yn ystormydd gwrthwynebiadau. Nid un o'r rhai hyny sydd yn gofyn, Beth sydd fuddiol? oedd ef, ond, Beth sydd iawn? Dichon i'w ffyddlondeb i egwyddor, a'i wroldeb yn erbyn cenllif llygredigaeth, ei golledu yn mhethau y byd hwn. Tynodd ŵg dynion diegwyddor a llygredig. Digient am ei fod mor onest, yn taro mor llym ar eu pechodau a'u harferion drwg; ond bu yr Arglwydd yn dyner wrtho, a gofalodd am dano. Cyhuddai rhai ef o fyned i eithafion yn erbyn hen arferion, a beïent ef am fod yn rhy benderfynol a manwl, ac ymosod yn rhy egnïol ar hen deyrnas llygredigaeth, a themlau Bacchus, ac ymyryd mewn pethau na pherthynent iddo. Yr oedd rhai o'r diotwyr yn ddigon parod i'w rwymo draed a dwylaw, a'i daflu i'r tywyllwch eithaf. Nis gellir trin clwyfau y byd heb i'r cleifion ochain a gwaeddi. Nis gall cerbyd diwygiaethrwydd deithio heb dori ar derfynau meddianwyr delwau, a myned â gobaith eu helw ymaith. Nis gall y diwygiwr lai na dysgwyl i'r byd ei ddifrïo, a dywedyd pob drygair am dano. Ond nid llawer a ofalai Ieuan am hyny. Nid oedd dim a ddywedid yn ei erbyn yn ei ddigaloni. Pwy bynag o bleidwyr trais a llygredigaeth a'i gwrthwynebai, dywedai yn hyf, "Nid ydym yn gofalu am
Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/22
Prawfddarllenwyd y dudalen hon