Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dr. W. O. Pughe yn un o Gymreigwyr rhagoraf ei oes, ac yr oedd yn mysg ei frodyr Cymreigyddol yma, fel Saul yn mysg y prophwydi, yn uwch o'i ysgwyddau nâ hwynt oll;—Meurig Ebrill, Dewi Wnion, Idrisyn, Cadfan, Bardd Mawddach, Gwilym Aran, Evan Evans (diweddar o Langollen), &c., &c. Yn mysg ei haelodau gohebol yr oedd Dr. W. O. Pughe, a'i fab, A. O. Pughe, Ysw., Bardd Nantglyn, Dewi Wyn, Gwilym Padarn, ac enwogion eraill. Profodd y Gymdeithas hon yn foddion effeithiol i ddwyn allan a diwyllio galluoedd cynhenid liaws o'i haelodau, ac i greu dyddordeb mewn barddoniaeth a llenyddiaeth Gymreig trwy yr holl ardal hon. Yr oedd ein hyglod brif-fardd Cristionogol, Dafydd Ionawr, yn byw yma trwy y chwech mlynedd cyntaf o fodolaeth y Gymdeithas. Bu farw yn 1827. Ond ni bu Dafydd Ionawr erioed mewn cymaint ag un o'i chyfarfodydd. "Nis gwyddom," fel y sylwasom yn ein Bywgofiant o'r hybarch fardd yn y gyfrol o'i Weithiau a gyhoeddasom, "fod ganddo unrhyw wrthwynebiad iddynt hwy ddifyru eu hunain felly, yn chwareu y beirdd a'r areithwyr; ond nid oedd yn lle iddo ef. Buasai yn ddarostyngiad i Fardd o'i urddas ef ymgymysgu â beirdd pell islaw iddo fel Llewelyn Idris, Ieuan Awst, Cawrdaf, a'u cydaelodau. Yr oedd y pynciau cyffredin yr ymddifyrent hwy yn eu trafod islaw ei sylw ef. Ni feiddiai ef gellwair felly â'r awen a roddasai Duw iddo, â'r gwaith dirfawr oedd ganddo i'w gyflawni â hi yn ei fywyd, ac â'r cyfrifoldeb cysegredig oedd yn gorphwys arno oherwydd hyny. Os gallent hwy chwareu a chwerthin â'u hawen, rhaid iddo ef fod o ddifrif. Ac heblaw hyny, pa difyrwch a allasai hen wr 70 mlwydd oed gael yn nghanol dynion ieuainc a chanol oed, llawn o fywiogrwydd a brwdfrydedd blodau eu hoes—dyn hefyd oedd yn byw yn barhaus yn nghyfeillach Job a Dafydd, Solomon ac Esaiah, beirdd mawrion ysbrydoledig y Bibl; Homer a Virgil, Shakspeare a Milton, Goronwy Owain a phrif-feirdd ymadawedig Cymru—dyn a dreuliai gymaint o'i amser yn treiddio i mewn i brophwydoliaethau dyfnion a hanesion pwysig y Gyfrol Ddwyfol—pa les, pa bleser, a allai dyn felly ddysgwyl yn nghyfeillach dynion cyffredin fel aelodau y Gymdeithas hono? Dim, yn ol ei farn ef; ac felly gwell oedd ganddo gyfeillachu gyda meirwon anfarwol y Bibl a'r byd yn ei fyfyrgell yn Bryntirion, neu gyda'i enaid ei hun yn y ' Marian Mawr' neu ryw le unig allan. Dyma y syniad oedd ganddo ef am y dull y dylid ymwneud â phethau mawrion Duw. Os eu prydyddu, eu prydyddu â'r holl enaid; os eu pregethu, eu pregethu hefyd yr un modd. Nis gallai ein hen brif-fardd feddwl am ymwneud â phethau mor anfeidrol ogoneddus a phwysig yn ysgafn, banerog, ac megys o hyd breichiau, fel y gwelai y rhan fwyaf o'n dysgawdwyr crefyddol yn gwneud. Pan ofynodd cyfaill iddo paham yr oedd efe, yn wahanol i holl Feirdd eraill Cymru, yn cyfyngu ei awen a'i amser mor hollol i destynau crefyddol, rhoddodd iddo yr ateb tarawiadol a ganlyn,—' Os ydyw crefydd yn ddim y mae yn bobpeth i ddyn yr anffyddiwr a'r merthyr yn unig sydd yn gyson â'u proffes." Deallir fel hyn y ffaith hynod nad anrhydeddodd ein