Tudalen:Gweithiau Barddonol a Rhyddieithol Ieuan Gwynedd.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

saf, ac ystyria ryfeddodau Duw.' Aeth trwy weithredoedd yr Anfeidrol mewn creadigaeth, rhagluniaeth, a gras; a thraethai gyda'r fath ymdywalltiad rhaiadrol, nes synu pawb yn y lle. Yr oedd yn ddawn gwahanol i ddim a glywsent erioed o'r blaen, ac yn enwedig yn wahanol i'r dawn chwareus, hamddenol, esboniadol, a arferent wrando bob Sabboth; a dywedodd mewn tri chwarter awr fwy o eiriau nag a ddywedwyd gan neb erioed o'r pulpud hwnw o'i flaen, y mae yn bur sicr genym. Teimlai pawb yn y lle, er hyny, fod rhywbeth yn y llanc gwledig a diaddurn, pwy bynag ydoedd, yn wahanol i bawb arall. Tarawodd ei brydweddion naturiol ni yn gryfach y pryd hwnw nag y gwnaethant byth wedi hyny. Hwyrach fod ein cynefindra â hwy yn peri nad oeddynt yn tynu ein sylw; ond yr ydym yn meddwl hefyd eu bod i raddau yn cilio, ac yn myned yn fwy anamlwg, fel yr oedd ei feddwl yn cael ei ddwyn dan ddiwylliant, ac yntau yn cael ei goethi gan arferion cymdeithas uwch na'r hon y magesid ef ynddi. Yr oedd y pryd hwnw wedi tyfu i'w lawn daldra, yn agos i ddwy lath o hŷd—pen bychan, heb gnwd trwchus o wallt arno, a'r ychydig oedd, wrth ei agwedd syth ac aflerw, yn dangos na wybu erioed beth oedd cael ei eneinio âg olew—talcen cul oedd ganddo, y fath na buasai y pengloglydd yn rhoi barn ffafrol arno, a'r croen yn crychu pan y taflai ei aeliau allan, ac yr ymgiliai ei lygaid gleision, llymion, treiddgar, y tu ol iddynt, i gysgod ei aelflew i lechu. Safai esgyrn ei fochgernau yn uchel, nes peri i'w fochau ymddangos yn pantio. Teneuon oeddynt ei wefusau, ac arferai eu gwasgu yn nghyd pan y byddai newydd ddyweyd rhywbeth, neu pan yn parotoi at siarad. Ei enau a'i lygaid oeddynt ddelweddau mwyaf dynodiadol ei wynebpryd; ond yr oedd awdurdod, meistrolaeth, a phenderfyniad yn amlwg yn ei holl ysgogiadau."—"Hanes Eglwysi Annibynol Cymru," Cyf. i., tu dal. 138.

Oherwydd bychander y cyflog rhoddodd yr isathraw ei le yn ysgol Bangor i fyny yn mhen ychydig fisoedd. Yr oedd ei fryd hefyd yn awr ar geisio derbyniad i Athrofa Aberhonddu. Tuag at sicrhau derbyniad anrhydeddus yno penderfynodd fyned i ysgol barotoawl y Parch. J. Jones, Marton, yn Sir Amwythig, Cam doeth oedd hwn. Yr oedd ei addysg fydol wedi ei esgeuluso yn alaethus yn moreu ei oes gartref. Teimlai ei ddiffyg o ddysgeidiaeth fwyfwy fel yr oedd ei uchelgais pregethwrol a llenyddol yn cryfhau. Credai fod "dysgeidiaeth yn nerth"—yn nerth moesol ag oedd yn rhwym o fyned yn fwyfwy anhebgorol er cyrhaedd safle anrhydeddus yn y pulpud, fel y cynyddai dysgeidiaeth yn yr eisteddleoedd o'i amgylch. Gwelai hefyd yn amlwg po helaethaf a fyddai y wybodaeth a allai gyrhaedd yn nghangenau isaf dysgeidiaeth cyn dechreu ar ei efrydiau Athrofaol, mai llwyraf oll y gallai gysegru pedair blynedd ei dymor yn yr Athrofa i gangenau uwch a mwy priodol i Athrofa, ac i waith mawr y weinidogaeth. Cam doeth felly oedd myned i ysgol barotoawl Marton—cam o'r pwys mwyaf i bob ymgeisydd am addysg Athrofaol yr esgeuluswyd ei addysg foreuol, fel Evan Jones, ei efelychu. Gresyn fod ein Hathrofeydd