prif bethau sydd yn fy nghymhell i ymdrechu am Athrofa. Gall y gwna dysgeidiaeth fy ngalluogi i fod o fwy o gysur i chwi yn eich hen ddyddiau, os gwel yr Arglwydd yn dda eich arbed chwi a minau hyd hyny. Y mae y Parch. J. Todd, dyn enwog yn yr America, yn cadw ei fam trwy ei ysgrifeniadau. Chwareu teg iddo! Ond nis gallasai wneyd hyny oni buasai ei fod yn ddysgedig yn gystal ag yn dduwiol. Rhaid fod y dyn a esgeuluso ei rieni yn fwy anifeilaidd na'r anifail." Y fath engraifft brydferth o gariad a gofal mabaidd! Er trymed y trethid ei feddwl, ei amser, a'i iechyd yn Marton gan ei efrydiau a'i lafur bugeiliol, a'i ymdrechion yn mhob modd i oleuo a moesoli yr ardal dywell a llygredig, cawn yn mysg ei ysgrifau luaws o brofion ei fod yno mor ddyfal ag erioed mewn llafur llenyddol. Ceir ychydig engreifftiau o'i gyfansoddiadau barddonol, ac un llythyr dyddorol a ysgrifenodd oddiyno at "ieuenctyd crefyddol y Brithdir," yn ei Weithiau, tu dal. 15 hyd 20, a 262. Am ei gymeriad cyffredinol tra yn ysgol Marton, dyma dystiolaeth ei gyfaill a'i gydefrydydd, y Parch. J. Thomas, Liverpool:—
"Yr oedd Ieuan, pan yn Marton, yn un o'r dynion ieuainc puraf yn ei arferion a adnabum erioed. Ffieiddiai ei galon bob twyll a rhagrith; ac nis gallai oddef y rhai a broffesent fod yr hyn y gwyddai nad oeddynt. Yr oedd yn hynod o gynil a gofalus, a boddlonai i fod heb lawer o bethau y carasai eu cael; ond gan ei fod yn gweled fod hyny yn anmhosibl heb redeg i ddyled, boddlonai hebddynt; canys yr oedd dyled ar fyfyriwr yn beth nas gallasai mewn un modd ddygymod âg ef. Yr oedd yn dyn iawn dros sefyll at beth bynag a benderfynid, a chyflawni pob ymrwymiad; ac os rhoddai ei air, gallesid ymddiried iddo y safai ato. Cyfrifai rhai ef yn llym a chreulawn, ac y mae yn sicr y buasai ychydig yn ychwaneg o dynerwch a hynawsedd ynddo yn ei wneyd yn aelod hapusach o gymdeithas. Ond ni bu y rhai yno a feient ac a achwynent ar ei orfanylwch yn hir cyn esbonio eu hunain ; ac yr oedd Ieuan wedi eu hadnabod cyn iddynt gyflawn ymddadblygu." "Hanes Eglwysi Annibynol Cymru," Cyf. i., tu dal. 139.
Trwy ei ymroddiad i'w efrydiau yn Marton a Minsterley, gwnaeth i fyny i fesur canmoladwy am esgeulusiad ei addysg yn moreu ei oes gartref. Nid anfuddiol i'n darllenwyr ieuainc fydd i ni nodi yma y prif achos o unrhyw ragoriaeth a enillodd Evan Jones yn mlynyddau boreuol hyn ei fywyd, ac yn wir trwy ei holl fywyd cyhoeddus wedi hyn. Nid unrhyw ragoriaeth cynhenid yn nerth ei feddwl, nac yn benaf ychwaith ei ymroddiad diorphwys i lafur, oedd hwnw. Y prif achos o bob rhagoriaeth a gyrhaeddodd trwy ei fywyd ydoedd, ei gallineb yn crynhoi ei holl yni a'i lafur i ddiwyllio ac ymarfer y doniau hyny yr ymdeimlai fod ei Grewr wedi ei gynysgaeddu â hwynt, heb erioed wastraffu ei uchelgais a'i amser ar unrhyw wybodaeth nac ymgais na chredai fod ganddo y gallu cynhenid angenrheidiol i ragori ynddynt. Efrydiodd yn gyntaf oll beirian waith ei enaid ei hun, a chysegrodd ef i'r gwaith hwnw yn unig ag yr oedd y Peirianydd dwyfol yn eglur wedi ei gyfaddasu iddo. Er engraifft, ni chredodd erioed ei fod yn un o ffafredigion yr Awen