unwaith sail i gredu i'w apeliadau, yn cael eu traethu mewn ysbryd difrif-ddigrif a hollol garedig, "gael effaith da ar ei wrandawyr." Teimlai ddyddordeb mawr yn Nghymdeithas Heddwch, yr hon a sefydlesid yn ddiweddar yn y Brifddinas, a diau fod y dyddordeb hwnw yn fwy o gymaint ag fod ei hysgrifenydd gwladgarol, ymroddedig, a'i phrif golofn, yn Gymro ac Ymneillduwr o'r iawn ryw-y Parch. Henry Richard, yr hwn sydd erbyn hyn wedi cyrhaedd i'r fath enwogrwydd fel yr aelod seneddol dros Ferthyr Tydfil. Dadleuodd lawer trwy y wasg wedi hyn o blaid egwyddorion y Gymdeithas bwysig hon.
Afreidiol yw dyweyd y denid ef yn fynych i feusydd swynol Barddoniaeth a Llenyddiaeth. Yr oedd barddoni mor naturiol iddo ag anadlu. Ceir amryw o gynyrchion ei awen y pryd hwn yn mysg ei Weithiau, tu dal. 23 hyd 44; ac yn flaenaf ceir blaenffrwyth ei ymgeisiau buddugol ar faes Barddoniaeth-ei bryddest ragorol ar farwolaeth Arfonwyson, am yr hon y derbyniodd ei wobr gyntaf o £5. Tra yn yr Athrofa, yn 1843, yr enillodd wobr arall o £5 am ei draethawd buddugol ar "Y rhwystr penaf i rwyddrediad a llwyddiant y Gymdeithas Ddirwestol yn y dyddiau hyn," yr hwn a welir yn tu dal. 313 o'i Weithiau Rhyddieithol. Yr oedd 21 o ymgeiswyr ar y testyn hwn. Enillodd amryw wobrwyon mewn cystadleuon ar walianol destynau yn mysg yr efrydwyr yn yr Athrofa. Cyfansoddodd yma hefyd luaws o ddarnau barddonol Saesonaeg, galargerddi gan mwyaf am gyfeillion trancedig; un o ba rai-yr oreu yn ei farn ef-a geir yn mysg ei Weithiau Barddonolyr un am ei anwylaf gyfaill, y Parch. S. Jones, Maentwrog. Cawn ei gyfansoddiadau y pryd hwn yn y Dysgedydd a'r Drysorfa Gynulleidfaol; megys, Cofiant ei ddiweddar athraw, y Parch. C. N. Davies (Dysg., Tachwedd a Rhagfyr, 1842); Bywyd ac Amseroedd Homer (Dysg., Gorphenaf ac Awst, 1843); Pwysigrwydd Ieithyddiaeth i Weinidog yr Efengyl (Dysg., Medi a Hydref, 1843), ac eraill llai eu hyd a'u pwys yn y Dysgedydd a'r Drysorfa.
Yn mysg ei ysgrifau cawn anerchiadau a draddodasai yn yr Athrofa ar "Anghyfreithlondeb Rhyfel," "Iawnderau Masnach," "Llenyddiaeth Gymreig," &c. &c. Yr oedd yn ohebydd mynych i'r Amserau, yr hwn a gychwynesid yn Gorphenaf, 1843, dan olygiaeth y Parch. William Rees (Gwilym Hiraethog). Ni oddefai i unrhyw achos cyhoeddus o bwys, cysyllteidig â Chymru, gael ei drafod yn hir ynddo na welid ef ar y maes yn llawn brwdfrydedd o'i blaid neu yn ei erbyn. Yn nechreu yr un flwyddyn hefyd y cychwynwyd y Drysorfa Gynulleidfaol gan nifer o weinidogion blaenaf yr enwad yn y Deheudir. Ei golygydd oedd y Parch. W. Jones, Penybont, ac argreffid hi yn swyddfa y Parch. E. Griffiths, Abertawe. Teimlai ein llenor ieuanc o Aberhonddu ddyddordeb dwfn ynddi, ac yr oedd yn un o'i gohebwyr a'i chefnogwyr ffyddlonaf. Ynddi hi y cyhoeddodd yr unig waith duwinyddol o unrhyw feithder a gyfansoddodd erioed. Cyfres o erthyglau ydoedd ar "Gristionogaeth" yn y gyfrol am 1845. Bwriadai hwy fel crynodeb o'r profion o wirionedd Cristionogaeth, er gwasanaeth i ieuenctyd