Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyma orchymmyn i'r holl negesyddion a'r carcharorion fyned allan o'r llys, bawb i'w dwll, a gado'r brenin a'i ben-cynghoriaid yno yn unig. Ond goreu i ninnau ymadael,' ebr fi wrth fy Nghyfaill, 'rhag iddynt ein cael?' 'Nid rhaid it' unon,' eb yr Angel; 'ni wel un ysbryd aflan byth trwy'r llen yma.' Felly yno yr arosasom yn anweledig, i weled beth oedd y mater. Yna dechreuodd Luciffer lefaru yn raslawn wrth ei gynghoriaid, fel hyn: Chwi'r prif ddrygau ysbrydol, chwi Ben-Ystrywiau Annwfn, eithaf eich dichellion maleisgar wrth raid yr wyf yn ei ofyn. Nid dyeithr i neb yma, mai Prydain a'r Ynysoedd o'i hamgylch yw'r deyrnas beryelaf i'm llywodraeth i, a llawnaf o'm gelynion: a pheth sy gan gwaeth, mae yno yr awron frenines beryclaf oll, heb osio[1] troi unwaith tuag yma, nac hyd hen ffordd Rufain o'r naill du, na chwaith hyd ffordd Geneva[2] o'r tu arall; a maint lles a wnaeth y Pab i ni yno yn hir, ac Olfir[3] hyd yr awran! Beth a wnawn weithian? Yr wyf yn ofni y collwn yr hen feddiant a'n marchnad yno yn glir, oni phalmantwn chwipyn ryw ffordd newydd yn dramwyfa iddynt; canys adwaenant yr holl hen ffyrdd sy'n tywys yma yn rhy dda.

A chan fod y dwrn anorfod hwn yn byrhau fy nghadwyn, ac yn fy rhwystro i fy hun i'r ddaiar, eich cynghor pwy a wnaf yn rhaglaw tanaf i wrthwynebu'r frenines adgas acw, rhaglaw ein Gelyn ni.'

O Empriwr mawr y tywyllwch,' ebr Cerberus, diawl y Tobacco, myfi sy'n rhoi traian cynnaliaeth y goron hòno: myfi a af ac a yraf i chwi ganmil o eneidiau eich gelynion trwy dwll pibell.' 'Wel,' ebr Luciffer, 'ti a wnaethost i mi wasanaeth digon da, rhwng peri lladd y perchenogion yn yr India, a lladd y cymmerwyr â glafoerion, gyru llawer i'w segur gludo o dŷ i dŷ, ereill i ledrata i'w gaol, a myrdd i'w serchu cymhelled nad allent fod ddiwrnod yn eu hiawn bwyll hebddo. Er hyn oll, dos di, a gwna dy oreu; ond nid wyt ti ddim i'r pwrpas presennol.'

Ar hyn eisteddodd hwnw; a chododd Mammon, diawl yr Arian; ac â golwg dra chostog[4] lechwrus:[5] 'Myfi,' ebr ef, 'a

  1. 'Osio'=cynnyg, ceisio, profi.
  2. 'Ffordd Geneva'=Calfiniaeth. Yn Geneva y preswyliai Calfin.
  3. 'Olfir'=Oliver Cromwel.
  4. Sarig, afrywiog, taiog, sur.
  5. Celgar, ffel, ystrywus, cyfrwys, cadnoaidd: Seis. sly.
    Dynion llechwrus iselgraff.'
    —Gweledigaeth y Byd.