Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/110

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i wisg uffernol. Oni bai ei bod hi, Rhagrith, yn medru dyeithro henw a natur pob drwg, tan rith rhyw dda, a llysenwi pob daioni â rhyw enw drwg, ni chyffyrddai ac ni chwennychai neb ddrwg yn y byd. Rhodiwch yr holl Ddinas Ddienydd, cewch weled faint yw hon ym mhob cwr. Dos i Ystryd y Balchder, ac ymorol am wr trahäus, neu am geiniog- werth o fursendod wedi ei gymmysgu trwy falchder; " gwae finnau," medd Rhagrith, "nid oes yno ddim o'r fath beth;" ac i ddiawl ddim arall yn yr holl ystryd ond yr uchder. Neu gerdd i Ystryd yr Elw, a gofyn am dy'r Cybydd; ffei! nid oes neb o'r fath ynddi; neu am dy'r Mwrdriwr ym mysg y physigwyr; neu am dŷ'r carn lleidr ym mysg y porthmyn; byddai cynt it' gael carchar am ofyn, na chael gan neb gyfaddef ei henw. Ië, mae Rhagrith yn ymlusgo rhwng dyn a'i galon ei hun, ac mor gelfydd yn cuddio pob camwedd, tan enw a rhith rhyw rinwedd, oni wnaeth hi i bawb agos golli eu hadnabod arnynt eu hunain. Cybydd-dod a eilw hi cynnilweh; ac yn ei hiaith hi, llawenydd diniwed yw oferwch; boneddigeiddrwydd yw balchder; gwr ffest[1] gwrol yw'r traws; cydymaith da yw'r meddwyn; ac nid yw godineb ond cestyn[2] ieuenctyd. O'r tu arall, os coelir hi a'i hysgolheigion, nid yw'r duwiol ond rhagrithiwr neu benbwl; nid yw'r llaryaidd ond llyfrgi; na'r sobr ond cerlyn; ac felly am bob camp arall. Gyrwch hon,' ebr ef, 'yn ei llawn drwsiad yno, mi a warantaf y twylla hi bawb, ac y dalla hi'r cynghoriaid, a'r milwyr, a'r holl swyddogion gwledig ac eglwysig, ac a'u tyn hwy yma yn fynteioedd chwap, â'r mwgwd[3] symmudliw ar eu llygaid.' Ac ar hyn yntau a eisteddodd.

Yna cododd Belsebub, diawl yr Anystyriaeth, ac â llais garw-gryf rhuadwy: 'Myfi,' ebr ef, 'yw tywysog mawr y Syndod; myfi a piau rhwystro i ddyn ystyried a chonsidrio[4] ei ystad; myfi yw penaeth y gwybed taer-ddrwg uffernol sy'n pensyfrdanu dynion, wrth eu cadw fyth a hefyd mewn rhyw ddwned[5] gwastadol yng nghylch eu meddiannau neu eu pleserau, heb adael iddynt, o'm bodd, fyth fynyd o hamdden i feddwl am eu ffyrdd na'u diwedd. Ni wiw i'r un o honoch ymgystadlu â mi am orchestion buddiol i deyrnas y tywyllwch.

  1. Ffel, craff, call, deheuig.
  2. Cestyn' (bychanig o cast)=cast bychan, pranc.
  3. Gorchudd, llen gel.
  4. Consider: ystyried, ystyrio, pwyllo.
  5. Dwndwr, dadwrdd, siarad.