Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dremio ac ymgyrhaedd â'r awyr, yn syrthio chwap i eigion uffern. Chwithau Asmodai, mae yn gof genym oll eich gwasanaeth mawr chwi gynt; nid oes neb lewach am gadw ei garcharorion tan glo, na neb mor ddigerydd a chwi; nid oes ond chwerthin tipyn am ben cestyn anllad. Ond bu agos i ti â thrigo o newyn yno'r blynyddoedd drudion diweddar. Ond, fy mab Belphegor, penaeth pryfedog y Diogi, ni wnaeth neb ini fwy pleser na chwi; mawr iawn yw eich awdurdod ym mysg y boneddigion, a'r gwreng hefyd hyd at y cardotyn. Ac oni bai cywreindeb fy merch Rhagrith yn lliwio ac yn ymwisgo, pwy fyth a lyncai un o'n bachau ni? Ond wedi'r cwbl, oni bai ddyfal lewdid fy mrawd Bolsebub, yn cadw dynion mewn syndod anystyriol, ni thalech chwi oll ddraen. Weithian,' ebr ef, 'ail grynöwn y cwbl. Beth a delit ti, Cerberus, â'th fygyn[1] tramor, oni bai fod Mammon yn dy achlesu? Pa farsiandwr fyth a gyrehai dy ddeiliach, trwy gymmaint perygl o'r India, oni bai o ran Mammon? Ac ond o'i achos ef, pa frenin a'i derbyniai, yn enwedig i Brydain? a phwy, ond o ran Mammon, a'i cludai i bob cwr o'r deyrnas? Er hyny, beth a delit tithau, Mammon, heb Falchder i'th wastraffu ar dai teg, dillad gwychion, cyfreithiau afraid, gerddi, ameirch, perthynasau drudfawr, dysglau aml, bir[2]. a chwrw yn genllif, uwch law gallu a gradd y perchenog: canys ped arferid arian o fewn terfynau angen- rhaid, a gweddeidd-dra cymmesurol, pa les a wnai Mammon i ni? Felly ni theli dithau ddim heb Falchder. Ac ychydig a dalai Falchder heb Anlladrwydd; o blegid bastardiaid yw'r deiliaid amlaf a ffyrnicaf a fedd fy merch Balchder yn y byd. Chwithau, Asmodai, penaeth Anlladrwydd, beth a dalech oni bai Ddiogi a Seguryd? pa le caech letty noswaith? Nid oedd wiw i chwi ddysgwyl gan un gweithiwr nac astudiwr llafurus.

  1. 'Mygyn' (o mwg)=chwiff, pwff o fwg.
    Mygyn o'r cetyn cwta.—Gronwy Owain.
  2. Seis. beer: ewrw, diod frag. Dywed y Dr. Johnson mai o bir y Gymraeg y mae beer y Seisoneg yn dyfod. Ceir y gair, gydag ychydig o amrywiaeth arddygraff, ym mhrif gangenau y Geltaeg, yn gystal ag mewn amryw ereill o ieithoedd Ewrop; megys, Gwyddeleg beoir; Gaeleg, bebir; Llydaweg, bir, ber, neu boer; Cernyweg, bior (dwfr); Almaeneg ac Isdiraeg, bier; Ffrancacg, bière; Italeg, birra; Rhineg, bior. Ceir ef hefyd yng ngwaith rhai beirdd Cymreig lled gynnar; ac ni ddylid anghofio ei fod wedi ei gyflëu megys gair Cymreig yng Ngeirlyfr y dysgedig Ddr. Dafis.
    Dy fir i'w yfed fal dwr afon.—Hywel Aerdrem