Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

barodd wneyd uffern, ac sy'n llenwi hi â thrigolion. Pe ceid hon o uffern, fe ai Annwn yn Baradwys: a phe ceid hi o'r ddaiar, fe ai'r byd bach yn nef; a phe cai hithau fyned i'r nef, hi a droai'r gwynfyd yn Uffern Eithaf! Nid oes dim yn y bydoedd oll (ond hon) nad Duw a'i gwnaeth. Hon yw mam y pedair Hudoles ddienydd; hon yw mam Angeu; a hon yw mam pob Drygioni a Thrueni; â chanddi grap ofnadwy ar bob dyn byw. Hi a elwir PECHOD. Y sawl a ddiango o'i bachau hi, gwyn ei fyd fyth,' eb yr Angel. Ar hyn fe ymadawodd; a chlywn ei adlais e'n dywedyd, 'Ysgrifena yr hyn a welaist; a'r sawl a'i darlleno yn ystyriol, ni fydd byth edifar ganddo.'