Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu gwaith yn gwrthuno ac yn cuchio[1] arnaf eisieu canu dychan[2] i'm brenin fy hun.

'Wel,' ebr fi wrthyf fy hun, 'yn iach weithian i'm hoedl; fe ä'r carn witsiaid[3] melltigedig hyn â mi i fwytty neu seler rhyw bendefig, ac yno y'm gadawant i dalu iawn gerfydd fy ngheg am eu lledrad hwy: neu, gadawant fi yn noeth lyman i fferu ar Forfa Caer,[4] neu ryw oerle anghysbelli[5] arall. Ond wrth feddwl fod y wynebau a adwaenwn i wedi eu claddu,[6] a'r rhai hyny[7] yn fy mwrw ac ereill yn fy nghadw uwch ben pob ceunant, dëellais nad witsiaid oeddynt, ond mai rhai a elwir y Tylwyth Teg. Ni chawn i attreg[8] nad dyma fi yn ymyl yr anferth gastell tecaf a'r a welais i erioed, a llyn tro mawr o'i amgylch; yma dechreuasant roi barn arnaf: 'Awn ag e'n anrheg i'r castell,' ebr un; "Nag e, crogyn ystyfrig, taflwn ef i'r llyn, ni thâl mo'i ddangos i'n tywysog mawr ni," meddai'r llall; 'A ddywed ef ei weddi cyn cysgu?' ebr y trydydd. Wrth iddynt son am weddi, mi a riddfenais ryw ochenaid tuag i fyny, am faddeuant a help; a chynted y meddyliais, gwelwn ryw oleuni o hirbell yn tori allan, O mor brydferth! Fel yr oedd hwn yn nesäu, yr oedd fy nghymdeithion i yn tywyllu ac yn diflanu; a chwipyn dyma'r Dysglaer yn cyfeirio tros y castell atom yn union: ar hyn gollyngasant eu gafael; ac ar eu hymdawiad troisant ataf guch[9] uffernol; ac oni buasai i'r Angel fy nghynnal, buaswn digon mân er gwneyd pastai, cyn cael daiar.

'Beth,' eb yr Angel, ‘yw dy neges di yma?' 'Yn wir, fy Arglwydd,' ebr finnan, 'nis gwn i pa le yw yma, na pheth yw fy neges, na pheth wyf fy hun, na pleth aeth â'm rhan arall i: yr oedd genyf bedwar aelod, a phen; a pha un ai gartref y gadewais, ai i ryw geubwll (canys cof genyf dramwy tros lawer o geunentyd geirwon) y bwriodd y Tylwyth Teg fi, os teg eu gwaith, nis gwni, Syr, pe crogid fi.' 'Teg, eb ef', 'y

  1. Gygu, talgrychu, gwneuthur cuwch, edrych yn ddigllawn
  2. Gogan, gogangerdd, casgerdd, goganair, cerdd ogan
  3. Witches: dewinesau, rheibwragedd, swynwragedd
  4. Caerlleon ar Ddyfrdwy, a elwir hefyd Caerlleon Gawr
  5. Pellenig; diarffordd. Longinquus, longè distans.'— Dr. Davies.
  6. Yr oedd yn adwaen yr wynebau; ond wynebau pobl wedi eu claddu oeddynt
  7. Rheini, yma, ac yn gyffredin, yn argraffiad 1703.
  8. Oed, oediad, seibiant, hamdden; amser i betruso neu oedi.
  9. Cuch, gwg, cilwg, golwg guchiog, edrychiad digllawn.