Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na welswn i ddim.' 'Aie, syre,'[1] dywedwch y cwbl,' ebr un o'r lleill. Ond mi atebais,' ebr ef, glywed o honof mai gwneyd castiau yr ych chwi â ni yr anllythyrenog; nad oes yn lle eneidiau ond crancod y môr yn ysgyrlwgach[2] tan y carbed.[3] O, fab y Fall! O, wyneb y felltith!' ebr y cyffeswr; 'ond ewch ym mlaen, fastiff.[4] Ac mai weir[5] oedd yn troi delw St. Pedr, ac mai wrth weir yr oedd yr Ysbryd Glân yn disgyn o lofft y grog ar yr offeiriad. O etifedd uffern!' eb y cyffeswr; hai, hai, cymmerwch ef, boenwyr, a theflwch ef i'r simnai fyglyd yna, am ddywedyd chwedlau. Wel, dyma i ti'r eglwys a fyn Rhagrith ei galw yn Eglwys Gatholig, ac mai y rhai hyn yw yr unig rai cadwedig,' eb yr Angel: 'bu gan y rhai hyn yr iawn spectol; eithr torasant hyd y gwydr fyrdd o luniau: a bu ganddynt wir ffydd; ond hwy a gymmysgasant yr enaint hwnw â'u defnyddiau newyddion eu hunain, fel na welant mwy na'r anghred.'

Oddi yno ni aethom i ysgubor, lle yr oedd un yn dynwared pregethu ar ei dafodleferydd; weithiau yr un peth deirgwaith olynol, 'Wel,' eb yr Angel, mae gan y rhai hyn yr iawn spectol i weled y pethau a berthyn i'w heddwch, ond bod yn fyr yn eu henaint un o'r defnyddiau angenrheitiaf, a elwir cariad perffaith. Mae amryw achosion yn gyru rhai yma: rhai o ran parch i'w hynafiaid; rhai o anwybodaeth; a llawer er manteisiau bydol. Gwnaent iti dybio eu bod yn tagu â'r wyneb, ond hwy a fedrant lyncu llyffaint rhag angen: ac felly mae'r Dywysoges Rhagrith yn dysgu rhai mewn ysguboriau.'

Ertolwg,' ebr fi,' pa le weithian y mae Eglwys Loegr? O,' ebr yntau, mae hòno yn y ddinas ucħaf fry, yn rhan fawr o'r Eglwys Gatholig. Ond, ebr ef, mae yn y ddinas yma rai eglwysi prawf, yn perthyn i Eglwys Loegr, lle mae'r Cymry a'r Seison tan brawf tros dro, i'w cymhwyso at gael eu henwau yn llyfr yr Eglwys Gatholig; a'r sawl a'i caffo, gwyn ei fyd fyth! Eithr nid oes, ysywaeth,[6] ond ychydig yn ymgymhwyso i gael braint yn hòno: o blegid yn lle edrych tuag yno, mae gormod yn ymddallu wrth y tair tywysoges obry; ac mae

  1. 'Syre'=syr, gyda dirmyg; yr un fath a sirrah yn y Seisoneg
  2. Rhugl-drystio; chwithrwd; clecian; cadw swn
  3. Carpet: llorlen
  4. Gwaedgi, costawcci.
  5. Wire: gwifr, edaf fetel
  6. Fel y mae gwaethaf y modd; ysgwaetheroedd, gwaetheroedd