Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai'r twll bach disathr hwnw oedd Porth y Bywyd; ac ni choelient mai hudoliaeth oedd y pyrth dysglaer ereill a'r castell, i rwystro iddynt weled eu distryw neş myned iddo.

Yn hyn, dyma drwp[1] o bobl o Ystrŷd Balchder, yn ddigon hy yn curo wrth y porth; ond yr oeddynt oll mor warsyth, nad aent byth i le mor isel, heb ddiwyno eu perwigau[2] a'u cyrn: felly hwy a rodiasant yn eu hôl yn o surllyd. Yng nghynffon y rhai hyn daeth atom ni fagad o Ystrŷd Elw: 'Ac,' ebr un, ai dyma Borth y Bywyd?' 'lë,' ebr gwyliwr, oedd uwch ben. Beth sy i'w wneyd, ebr ef, at[3] ddyfod trwodd?'

Darllenwch o ddeutu'r drws, cewch wybod.' Darllenodd y cybydd y Deg Gorchymmyn i gyd trostynt. 'Pwy,' ebr ef, a ddywed dori o honof fi un o'r rhai hyn?' Ond pan edrychodd e'n uwch, a gweled, 'Na cherwch y byd, na'r pethau sy'n y byd,' fe synodd, ac ni fedrai lyncu mo'r gair caled hwnw. Yr oedd yno un piglas cenfigenus a droes yn ôl wrth ddarllen, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.' Yr oedd yno gwestiwr[4] ac athrodwr, a chwidr droisant wrth ddarllen, Na ddwg gam dystiolaeth. Pan ddarllenwyd, Na ladd, Nid yma i ni,' eb y physigwyr. I fod yn fyr, gwelai bawb rywbeth yn ei flino, ac felly cyd-ddychwelasant oll i astudio'r pwynt. Ni welais i yr un eto yn dyfod wedi dysgu ei wers; ond yr oedd ganddynt gymmaint o godau ac ysgrifenadau yn dyn o'u cwmpas, nad aethent fyth trwy grai mor gyfyng, pe ceisiasent.

Yn y fan, dyma yr o Ystrŷd Pleser yn rhodio tua'r porth. Yn rhodd,' ebr un, wrth y gwylwyr, 'i ba le mae'r ffordd yma yn myned?' 'Dyma,' ebr gwyliwr, y ffordd sy'n arwain i lawenydd a hyfrydwch tragwyddol. Ar hyn, ymegnïodd pawb i ddyfod trwodd, ond methasant; canys yr oedd rhai yn rhy foliog i le mor gyfyng; ereill yn rhy egwan i ymwthio, wedi i ferched eu dihoeni, a'r rhai hyny yn eu hattal gerfydd eu gwendid afiach. 'O,' ebr gwyliwr oedd yn edrych arnynt, 'ni wiw i chwi gynnyg myned trwodd â'ch teganau gyda chwi; rhaid i chwi adael eich potiau, a'ch dysglau, a'ch

  1. Troop: haid, myntai, gyr, twr, bagad
  2. Periwigs: penguwchau, ffugwallt
  3. 'At,' arg. 1703; 'ar,' amryw ereill
  4. Un yn arfer cadw cwest neu reithfarn ar ei gymmydogion; un yn barnu ar bobl ereill; chwiliwr am wallau. Questman neu qaestnonger y gelwid gynt un a gychwynai erlyniadau cyfreithiol; ac y mae dywedyd bod dyn yn cwesta ar hwn a'r llall, yn ymadrodd cyffredin yn Nyfed.