Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O ddyn! dy bechod di dy hun
A boerodd ddiluw,
Chwyth eto ddistryw
O wreichion hyllfyw,
A'r hollfyd aeth yn fanc;
Ei dithau'n waeth, fyd bychan,
Byth, byth, ar druan dranc.
Ond mae un lle i ochel gwae,
Un llys trugaredd,
Ac yn dy gyrhaedd;
Cais yno annedd,
Rhag myn'd i'r sugnodd syth;
Ac onid ei di yno,
Gwae di dy eni fyth.

4. Gwel di'r adeilad hòno,
Gadarnach nag y gallo
Fyth golli'r diwrnod;
Un well na'r hollfyd cyfrdo,[1]
Ddiogel i ddiwygio
A ddygodd pechod;
Caer gron ar wasgar daiar don,
Yn noddfa nefol,
Craig anorchfygol,
A meini bywiol,
Gôr breiniol, ger ei bron;
Yr Eglwys Lân Gatholig
A'i thylwyth ydyw hon:
Er maint ein pechod, hynod haint,
Cawn yno bardwn,
Os ufudd gredwn;
Yn hon ymdynwn
A brysiwn i gael braint;
A hyn a'n gwna'n ddaiarol
A nefol siriol saint. Amen.

  1. Cyfan, cryno, cyflawn, perffaith