Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y nesaf a ddaeth at y bar, oedd rhyw frenin agos i Rufain. 'Cyfod dy law, garcharor,' ebr un o'r swyddogion. 'Gobeithio,' ebr hwnw, 'fod genych beth gwell moes a ffafr i frenin." Syre.' ebr Angeu, 'chwithau ddylasech ddal y tu arall i'r agendor, lle mae pawb yn freninoedd; ond gwybyddwch nad oes o'r tu yma yr un ond fy hunan; ac un brenin arall sydd i waered obry; a chewch weled na phrisia hwnw na minnau yng ngraddau'ch mawrhydi, eithr yng ngraddau'ch drygioni, i gael cymhwyso eich cosp at eich beiau; am hyny atebwch i'r holion.' 'Syr,' ebr yntau, gwybyddwch nad oes genych ddim awdurdod i'm dal nac i'm holi: mae genyf fi faddeuant o'm holl bechodau tan law'r Pab ei hun. Am i mi ei wasanaethu e'n ffyddlon, yntau roes i mi gynnwysiad i fyned yn union i Baradwys, heb aros fynyd yn y purdan.' Wrth hyn dyma'r brenin, a'r holl gegau culion, yn rhoi oer ysgyrnygfa, i geisio dynwared chwerthin; a'r llall, yn ddigllon wrth y chwerthin, yn eu gorchymmyn i ddangos iddo ei ffordd. Taw, ffwl colledig,' ebr Angeu, tu draw i'r wal o'th ol y mae'r purdan; canys yn dy fywyd y dylasit ymburo; ac ar y llaw ddeheu, tu hwnt i'r agendor yna, y mae Paradwys. Ac nid oes dim ffordd bosibl i ti ddianc weithiau, na thros yr agendor i Baradwys, na thrwy'r wal derfyn yn dy ol i'r byd; canys, pe rhoit dy freniniaeth (lle ni feddi ddimai i roi) ni chait gan borthor y drysau yna ysbio unwaith trwy dwll y clo. Y Wal Ddiadlam[1] y gelwir hon; canys pan ddeler unwaith trwyddi, yn iach fyth ddychwelyd. Ond gan eich bod gymmaint yn llyfrau'r Pab, cewch fyned i gyweirio ei wely ef at y Pab oedd o'i flaen, ac yno cewch gusanu ei fawd ef byth, ac yntau fawd Luciffer.' Ar y gair, dyma bedwar o'r mân angeuod yn ei godi, ac yntau erbyn hyn yn crynu fel dail yr aethnen, ac a'i cipiasant fel y mellt allan o'r golwg.

Yn nesaf at hwn daeth mab a merch. Ef a fuasai yn gydymaith da, a hithau yn ferch fwyn, neu yn rhwydd o'i chorff; eithr galwyd hwy yno wrth eu henwau noethion, meddwyn a phutain. Gobeithio,' ebr y meddwyn, 'y caf fi

genych beth ffafr; mi yrais i chwi lawer ysglyfaeth dew mewn

  1. 'Diadlam' (o di, ad, a llam)=nas gellir llamu, neidio, neu fyned yn ol ar hyd-ddi wedi yr eler unwaith drosti; diwrthlam. Y mae yn un o'r geiriau mwyaf grymus ac ystyrlawn yn yr iaith.

    A'i anadl diadlam dwfn
    Yn megino mwg annwfn.
    Gwilym Wynn.