Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y galwasid hwy at y bar, nad dyma'r llys oll wedi duo yn saith hyllach nag o'r blaen, a grydwst a chyffro mawr o gylch yr orseddfainc, a'r Angeu yn lasach nag erioed. Erbyn ymorol, un o genadon Luciffer a ddaethai â llythyr at Angeu, yng nghylch y saith garcharor hyn; ac ym mhen ennyd, parodd Tynged ddarllen y llythyr ar osteg; ac hyd yr wyf yn cofio, dyma'r geiriau:—

Luciffer, Brenin Breninoedd y Byd, Tywysog Annwn a Phrif Reolwr y Dyfnder, At ein naturiol Fab, y galluocaf ddychrynadwy Frenin Angeu: cyfarch, a goruchafiaeth, ac ysbleddach[1] dragwyddol.

Yn gymmaint a darfod i rai o'n cenadon cyflym, sy'n wastad allan ar ysbî, hysbysu i ni ddyfod gynneu i'ch breninllys saith garcharor o'r saith rywogaeth ddihiraf yn y byd, a pheryclaf, a'ch bod chwi ar fedr eu hysgwyd tros y geulan i'm teyrnas i: eich cynghori yr wyf fi i brofi pob ffordd bosibl i'w gollwng hwy yn ou hol i'r byd; gwnânt yno fwy o wasanaeth i chwi am ymborth, ac i minnau am well cwmni: canys gwell genym eu lle na'u cwmpeini; cawsom ormod o heldrin[2] gyda'u cymheiriaid hwy er's talm, a'm llywodraeth i yn gythryblus eisys. Am hyny, trowch hwy yn eu hol, neu gedwch gyda chwi hwynt. O blegid myn y goron uffernol, os bwri hwy yma, mi a faluriaf tan seiliau dy deyrnas di, hyd oni syrthio yn un â'm teyrnas fawr fy hun.

'O'n Breninllys ar Sugnedd yn y Fallgyrch[3] eirias,[4] yn y flwyddyn o'n Teyrnasiad, 5425.'

Safodd y brenin Angeu, â'i wep yn wyrdd ac yn las, ennyd ar ei gyfyng gynghor. Ond tra bu e'n myfyrio, dyma Dynged yn troi ato'r fath guwch haiarnddu a wnaeth iddo grynu. Syre,' ebr ef, edrychwch beth a wneloch; ni feddiaf fi

  1. 'Ysbleddach',yn ol y Dr. Dafis, yw lusus oblectamentum; sef, chwareu, difyrwch, maldod, sarllach: ond yn ol y Dr. Puw, spoil, prey, or booty, yw ystyr y gair. Dealla Ioan Walters a Thomas Richards ef yr un modd a Dafis. Ond nid yw yn ymddangos i mi fod neb o'r ystyron hyn yn cydweddu yn hollol â'r lle hwn a thybiaf mai cyfathrach, cynghrair, neu gydbleidiaeth, a olygir wrtho, ac mai alliance yw y cyfystyr agosaf iddo yn y Seisoneg.
  2. Trafferth, ffwdan, helgur, helbul
  3. Y fallgyrch' (mall—cyrch)=cyrch neu gyrchfa y Fall; priflys neu brif neuadd y cythreuliaid; cynghethernan: pandemonium.
  4. Llosg, gwynias, chwilboeth, tanllyd.